Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr, Rhun, am dynnu sylw at yr erthygl yn The Lancet o bapur Imperial, ac rwy'n falch bod y wybodaeth honno wedi helpu Plaid Cymru i ddod i gasgliad ar y rheoliadau heddiw. Mae'n wir na fydd y pasys ddim yn gweithio ar eu pennau eu hunain, ac mae pob mesur bach yn ategu ein hymdrech ni i gyfyngu ar ymlediad y feirws.