Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Fel y dywedodd y Gweinidog eisoes, mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu i etholwyr wneud cais am bleidlais frys drwy ddirprwy mewn rhai isetholiadau llywodraeth leol a gynhelir rhwng y dyddiad pan ddaw'r rheoliadau hyn i rym a 28 Mawrth 2022. Bydd hyn yn caniatáu i'r etholwyr gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol, cyngor Llywodraeth Cymru, neu gyngor ymarferydd meddygol cofrestredig mewn cysylltiad â coronafeirws.
Ein pwynt adrodd cyntaf yw na chafwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y rheoliadau hyn oherwydd eu natur frys a'r amserlen hwylus, ac rydym wedi tynnu sylw at y dyfyniadau perthnasol o'r memorandwm esboniadol a ddaw gyda'r rheoliadau sy'n ymwneud â hyn.
Tynnodd ein hail bwynt adrodd sylw at anghysondebau rhwng y memoranda esboniadol Cymraeg a Saesneg, a allai fod wedi achosi dryswch ynghylch effaith y rheoliadau. A nodwn fod y gwallau hyn bellach wedi'u cywiro a bod memorandwm esboniadol diwygiedig wedi'i osod. Diolch, Gweinidog a diolch, Dirprwy Lywydd.