7. Dadl: Cynnwys Pleidleiswyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 9 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 5:45, 9 Tachwedd 2021

Mae Llywodraeth San Steffan ei hun yn dangos y gall 2 filiwn o bobl, gan gynnwys 100,000 o bobl yma yng Nghymru, golli'r gallu i bleidleisio oherwydd cyflwyno ID i bleidleiswyr. Mae 48 y cant o bobl du ym Mhrydain heb drwydded yrru. Ac mae hyn i gyd, fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, yn cael ei wneud er gwaethaf y dystiolaeth nad oes yna ddim problem i'w datrys. Roedd Gogledd Iwerddon yn hollol wahanol, fel rŷch chi'n gwybod yn iawn.