Part of the debate – Senedd Cymru am 5:44 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Bydd yr holl fesurau hyn yn amddiffyn pleidleiswyr rhag twyll ac yn gwella diogelwch ac uniondeb etholiadau a fydd yn cael eu cynnal, felly yn hytrach na chwyno amdanyn nhw, fe fyddwn yn annog Llywodraeth Cymru i wneud rhywbeth cadarnhaol. Beth am eu mabwysiadu nhw ar gyfer etholiadau'r Senedd? Beth am eu mabwysiadu nhw ar gyfer etholiadau llywodraeth leol hefyd? Byddai hynny'n gwneud pleidleiswyr yn ffyddiog bod eu pleidleisiau'n gwneud gwahaniaeth ac na fyddant yn cael eu dwyn mewn etholiad.