Part of the debate – Senedd Cymru am 7:10 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Mae'r dyddiau nesaf yn ein galluogi i gasglu ein meddyliau a myfyrio ar y rhai sydd wedi gwasanaethu ein cenedl dros y blynyddoedd, a'r rhai sy'n dal i wasanaethu heddiw, i'n cadw ni'n ddiogel. Byddwn ni'n bresennol yn ein gwasanaethau coffa yn fuan, a byddwn ni'n gwrando ar yr enwau'n cael eu darllen o'n senotaffau a byddwn ni'n ceisio dychmygu'r bobl hynny a safai yno o'n blaenau ni ac a syrthiodd ar ein rhan ni yn rhyfeloedd y blynyddoedd a fu. Mae'r atgofion ingol hyn yn ein gwreiddio ni ac yn dod â ni ynghyd ag ymdeimlad o undod a diolch diffuant. Mae'n anodd deall sut beth oedd hi i'r rhai a wnaeth yr aberth eithaf, yn enwedig yn eu dyddiau a'u horiau olaf, ac mae yr un mor anodd deall yr hyn y mae llawer o gyn-filwyr yn byw ag ef heddiw, ac mae ein calonnau'n mynd allan i bob un ohonyn nhw.
Heddiw, rydym ni'n meddwl am y cyn-filwyr hynny, allan yn ein cymunedau, sy'n cario creithiau corfforol a meddyliol gwasanaeth gweithredol diweddar. Mae'n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r unigolion hynny fel erioed o'r blaen. Mae llawer yn byw gydag atgofion sy'n hunllef iddyn nhw, a'r anhwylder straen wedi trawma a ddaw yn ei sgil. Rwyf i wedi gweld hyn yn uniongyrchol, a minnau'n dad i gyn-filwr ifanc. Roedd fy mab yn filwr ifanc a oedd yn gwasanaethu yn Affganistan pan gafodd ei dargedu gan fomiwr hunanladdol ar y strydoedd o amgylch Kabul. Achubodd y car arfog yr oedd yn ei yrru ei fywyd, ond ni allai ei achub rhag y trawma meddyliol a ddilynodd hynny. Fe wnaeth ef, fel miloedd lawer o gyn-filwyr eraill, gael trafferth am flynyddoedd gyda chyflwr gwanychol. Roedd fy mab i yn ffodus bod y Lleng Brydeinig Frenhinol ac elusennau eraill wedi ei helpu mewn sawl ffordd a'i helpu i ddringo allan o'r lle hwnnw yr oedd ef ynddo, a byddaf i'n fythol ddiolchgar am y cyrff hynny.
Ond, yn anffodus, mae cymaint o gyn-filwyr allan yno y mae angen cymorth arbenigol arnyn nhw o hyd, mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i ddod o hyd i ffyrdd gwell o'u cefnogi. Fe wnaethom ni ddarllen yn y newyddion ychydig ddyddiau yn ôl am yr heriau sy'n wynebu cyn-filwyr mor bell yn ôl â rhyfel y Falklands, sy'n dal i fyw â hunllefau eu profiadau blaenorol, ond sy'n teimlo nad yw'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar gael mewn gwirionedd. Rwy'n siŵr bod llawer mwy y gallwn ni ei wneud i helpu'r rhai hynny sydd wedi gwneud cymaint drosom ni, ac rwy'n gwybod y bydd pawb yn y Siambr hon yn dymuno gwneud rhagor o gynnydd i'r diben hwnnw. Yng nghyllideb yr hydref yn ddiweddar, roedd yn dda gweld y cyhoeddiad am gyllid ar gyfer comisiynydd cyn-filwyr Cymru i wella bywydau a chyfleoedd cyn-filwyr Cymru yn y gymuned. Rwy'n gobeithio y gall ein Gweinidog rannu sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar hyn, a sut y gall y comisiynydd helpu i oruchwylio'r gwaith o gyflawni cyfamod y lluoedd arfog yng Nghymru.
Rwy'n croesawu rhai o'r pethau cadarnhaol y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu gwneud, fel sydd wedi ei adrodd yn adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog. Gallwn ni i gyd gefnogi'r camau cadarnhaol, fel y cynllun Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau'r Lluoedd Arfog, a'r gefnogaeth i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru, gyda'r arian ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi'n ddiweddar gan y Llywodraeth. Mae'n rhaid croesawu hyn, yn ogystal â'r ymrwymiad i gynyddu'r cyllid i SSCE Cymru i gefnogi plant y lluoedd arfog yng Nghymru, ac rydym ni hefyd yn cefnogi gwaith gwych swyddogion cyswllt y lluoedd arfog. Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod sawl maes y byddai modd eu gwella a'u datblygu, ac ni fyddaf i'n eu rhestru yn y fan yma, ond rwy'n gwybod y bydd pob un ohonom ni yn y Siambr hon, o ba blaid bynnag, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi Llywodraeth Cymru i wella pethau lle bo angen.
Dirprwy Lywydd, mae'r lluoedd arfog sydd gennym ni yn fendith i ni, gyda dynion a menywod o'r radd uchaf yn gwasanaethu, sydd wedi ymrwymo'n llwyr i'r bobl y maen nhw'n eu gwasanaethu. Cafodd hyn ei ddangos yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, drwy adegau trychinebau fel llifogydd, ac wrth gwrs y 18 mis diwethaf drwy'r pandemig—un o'r cyfnodau anoddaf mewn cof byw. Mae ein diolch yn mynd iddyn nhw i gyd. Mae'n galonogol gwybod eu bod nhw yno bob amser pan fydd heriau'n codi.
I gloi, yn ystod y dyddiau nesaf byddwn ni'n meddwl am y rhai sydd wedi mynd o'n blaenau ac wedi rhoi cymaint, ynghyd â'r rhai sy'n parhau i fyw gyda thrawma rhyfeloedd a'r rhai sy'n gwasanaethu heddiw. Maen nhw i gyd yn ein meddyliau, ac rydym yn diolch iddyn nhw i gyd, yn awr ac yn y gorffennol. Diolch.