Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 9 Tachwedd 2021.
Gan fyfyrio ar wrthdaro mwy diweddar, yn enwedig gyda digwyddiadau diweddar yn Affganistan, rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol i ni gymryd eiliad heddiw i gydnabod yr holl ddynion a menywod hynny a wasanaethodd yn Affganistan. A hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i bawb a ddarparodd gymorth y mae mawr ei angen—y bobl hynny a weithiodd yn ddewr ochr yn ochr â'n lluoedd ac sydd bellach yn y broses o adleoli yma o Affganistan. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno bod arnom ni groeso cynnes Cymreig iddyn nhw am yr hyn a wnaethant.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cymuned filwrol ac rydym yn falch o'r milwyr sy'n gwasanaethu a'r effaith gadarnhaol y mae ein lluoedd arfog a'u teuluoedd yn ei gael ar gymunedau. Felly, rydym yn parhau i bwysleisio'n llwyr wrth Lywodraeth y DU bwysigrwydd bod y lluoedd arfog yn cynnal presenoldeb ac ôl troed yng Nghymru sy'n gymesur â'r cyfraniad y mae Cymru'n ei wneud i'r lluoedd arfog, gan gynnwys nifer y dynion a'r menywod o Gymru sy'n gwasanaethu yn ein lluoedd arfog.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi ein diolch i ddynion a menywod ein gwasanaethau arfog sy'n parhau i helpu ein cenedl i oresgyn yr heriau digynsail sy'n gysylltiedig â phandemig COVID-19. Maen nhw wedi torchi llewys ac wedi darparu cymorth hanfodol wrth gyflwyno'r brechlyn i gynorthwyo ymddiriedolaeth gwasanaeth ambiwlans Cymru, darparu cyfarpar diogelu personol a hyd yn oed dosbarthu bwyd. Rwy'n siŵr bod Aelodau'n ymuno â mi heddiw i ddiolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw wedi'i wneud.
Mae'r cyfnod cofio hwn yn gyfle i gofio cyn-filwyr ddoe, ond hefyd i ailddatgan ein cefnogaeth i gyn-filwyr heddiw ac i ddyblu ein hymdrechion i gyn-filwyr yfory. Ym mis Mehefin, lansiais drydydd adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog Llywodraeth Cymru, gan gadarnhau ein hymrwymiad parhaus i gymuned y lluoedd arfog. Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio ar draws pob sector. Ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer GIG Cymru i Gyn-filwyr, gan ddod â'u cyllid i £920,000 y flwyddyn, sy'n gynnydd o 35 y cant i gefnogi cyn-filwyr sydd angen cymorth gyda phroblemau iechyd meddwl. Gellir dod o hyd i gymorth hefyd drwy ein llinell gymorth iechyd meddwl CALL 24/7—cymorth yr ydym wedi ymrwymo i'w barhau.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog ym mis Tachwedd 2020 i roi'r dewis i gyn-filwyr y lluoedd arfog ymuno â'r gwasanaeth sifil. Drwy ein grŵp gweithredu cyflogaeth, rydym yn cefnogi digwyddiad cyflogaeth i'r rhai sy'n gadael y gwasanaeth a chyn-filwyr a gynhelir yn ddiweddarach y mis hwn, a fydd yn rhoi cyfle i gyflogwyr ddysgu am sgiliau trosglwyddadwy cyn-filwyr, ac, i gyn-filwyr, y cyfle i gael gwaith yn y dyfodol gobeithio.
Rydym hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn Llywodraeth yr Alban a Busnes yn y Gymuned i lansio ein dogfen 'Manteisio ar Dalent Teuluoedd Milwrol', sy'n nodi'r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr ar gyfer priod a phartneriaid milwyr sy'n gwasanaethu. Ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddatblygu strategaeth deuluol newydd ar gyfer milwyr sy'n gwasanaethu, a fydd yn darparu'r cymorth a'r wybodaeth sydd eu hangen, boed hynny'n gyngor ar gymorth gofal plant neu'n gymorth i blant mewn addysg. Yn nes adref, rydym wedi buddsoddi £250,000 y flwyddyn yn y rhaglen Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru—SSCE Cymru—i roi cyngor a chymorth i blant milwyr yng Nghymru. Yn dilyn cais llwyddiannus i'r gronfa gyfamod ar gyfer SSCE, rwyf wedi penodi pedwar swyddog cyswllt ysgolion rhanbarthol plant milwyr ac maen nhw wrthi'n ymgysylltu ag ysgolion ac yn eu cefnogi i ddeall anghenion plant milwyr.
Rydym yn parhau i fuddsoddi £275,000 bob blwyddyn yn ein swyddogion cyswllt y lluoedd arfog, AFLO. Nhw yw ein llygaid a'n clustiau gwerthfawr ar lawr gwlad, a bob tro y byddaf yn cael cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr o Lywodraethau mewn rhannau eraill o'r DU, maen nhw'n cydnabod yn llwyr swyddogaeth a gwerth yr AFLO hynny. Maen nhw'n parhau i wneud cynnydd da o ran darparu gwasanaethau ar gyfer cymuned y lluoedd arfog, gan gynnwys pethau fel darparu cyrsiau cymorth cyntaf iechyd meddwl i gymuned y lluoedd arfog a sefydliadau cymorth, hyfforddiant i staff awdurdodau lleol, heddluoedd, byrddau iechyd a sesiynau pwrpasol i aelodau staff yn yr Adran Gwaith a Phensiynau i godi ymwybyddiaeth o anghenion cyn-filwyr a'u teuluoedd, ochr yn ochr â gweithio gydag elusennau milwrol i sefydlu canolfannau cyn-filwyr mewn awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag unigrwydd a rhoi cymorth a chyngor.
Yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog, lansiwyd ein canllaw ailsefydlu cyntaf yng Nghymru. Datblygwyd hwn ar y cyd â'r Bartneriaeth Pontio Gyrfa a Brigâd 160 (Cymru) ac mae'n tynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i filwyr sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd sy'n dychwelyd i fywyd sifil yng Nghymru. Gellir rhoi clod am y cyflawniadau hyn, ynghyd â llawer o rai eraill, i'n dull cydweithredol. Ar lefel weinidogol, rydym yn cyfarfod bob dwy flynedd gyda grŵp o arbenigwyr ein lluoedd arfog, ac yn ddiweddarach eleni bydd ein tri phrif swyddog arfog yng Nghymru, ar wahoddiad y Prif Weinidog, yn cael eu gwahodd i gyfarfod o'r Cabinet lle gallwn gryfhau ein perthynas waith sefydledig a chadarnhaol ymhellach.
Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau dychwelyd yn fyr at bwyslais y ddadl goffa heddiw. Mae'r cynnig yn gofyn i ni anrhydeddu gwasanaeth ac aberth milwyr sy'n gwasanaethu yn y gorffennol a'r presennol. Mae hefyd yn gyfle i ddiolch i'n lluoedd arfog presennol am eu cefnogaeth barhaus a gwerthfawr mewn ymateb i bandemig COVID-19, ac i dalu teyrnged i waith y Lleng Brydeinig Frenhinol wrth iddi ddathlu ei blwyddyn canmlwyddiant. Mae'n ailddatgan ein cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog. Ac, wrth gwrs, dylem ni, pob un ohonom, ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i wrthdaro a rhoi terfyn ar bob rhyfel. Rydym yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, a'r rhai sydd wedi dioddef anaf meddyliol a chorfforol. Dywedwn 'diolch' o galon wrth i ni dalu teyrnged i ddewrder ac aberth ein lluoedd arfog, ein cyn-filwyr a'u teuluoedd.