Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch, Buffy. Rwy'n gwbl benderfynol na fydd y trawsnewidiad, yn y chwyldro diwydiannol nesaf sydd i ddod, yr un fath â'r hyn a ddigwyddodd yn y chwyldro diwydiannol blaenorol. Mae'n llygad ei lle yn dweud bod cyfoeth o lo yn arfer bod yn y Rhondda, ond yr hyn a ddigwyddodd gyda'r glo hwnnw oedd nad aeth budd y glo, a'r cyfoeth a ddaeth yn ei sgil, i bobl y Rhondda; fe aeth i nifer fach iawn o gyfalafwyr. Mae'n rhaid inni sicrhau bod y trawsnewidiad gwyrdd yn cael effaith gyfan gwbl i'r gwrthwyneb, a'i fod yn drawsnewidiad cyfiawn sydd o fudd i bobl y Rhondda. Mae Cymru'n lwcus o gael cyfoeth o adnoddau naturiol ar gyfer y chwyldro gwyrdd newydd hefyd. Mae gennym ein moroedd hardd, ein mynyddoedd hyfryd, ein cymoedd godidog. Mae pob un yn cyfrannu at y cyfle i ni allu bod yn allforiwr net ym maes ynni adnewyddadwy. Ond rhaid i fuddion hynny ddod yn ôl i bobl y Cymoedd. Mae hefyd yn llygad ei lle yn tynnu sylw at ddyfeisgarwch a chreadigrwydd pobl y Cymoedd. Rwy’n llwyr gydnabod hynny, ac rydym yn gwbl benderfynol o sicrhau ein bod yn harneisio’r creadigrwydd hwnnw yn ein cynlluniau sgiliau a datblygu economaidd newydd.
I nodi ambell beth, rwy'n llwyr gydnabod yr enghreifftiau a gododd, ac mae'r economi yn y Cymoedd yn arbennig o ddiddorol mewn perthynas â'r rhaglenni atgyweirio ac adfer, ac rwyf wedi cael y fraint o ymweld â chryn dipyn ohonynt dros y blynyddoedd, ac maent bob amser wedi bod yn ysbrydoliaeth. Ond hoffwn sôn am ddwy ohonynt yn benodol. Yn gyntaf, rhaglen y Cymoedd Technoleg, a'r cymorth i fusnesau ochr yn ochr â hi. Mae'n dangos ein buddsoddiad yn y Cymoedd i gefnogi twf diwydiannau'r dyfodol. Mae'n hanfodol er mwyn creu'r economi gadarn a chynaliadwy rydym yn dymuno'i gweld yng Nghymoedd de Cymru. A'r un y soniodd amdani hefyd, parc rhanbarthol y Cymoedd, roedd archwilio'r cysyniad hwnnw'n flaenoriaeth allweddol i dasglu'r Cymoedd. Rydym wedi ymrwymo £8 miliwn ar gyfer 12 safle'r pyrth darganfod, a dau safle rhannu mannau gwaith hyd yn hyn. Bydd y pyrth darganfod yn safleoedd blaenllaw enghreifftiol sy'n arddangos y Cymoedd, yn ennyn mwy o ddiddordeb a gwybodaeth am dreftadaeth naturiol a diwylliannol y Cymoedd, yn cynyddu twristiaeth gynaliadwy, ac yn rhoi hwb economaidd.
Rwy'n meddwl o ddifrif mai un o'r gwersi o'r COP yw'r cynnydd mawr ledled y byd yn nifer y bobl sy'n dymuno gweld twristiaeth gynaliadwy, sy'n ystyriol o'r hinsawdd. Ac mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn i ddarparu hynny, ac rydym mewn sefyllfa dda i fod ar y blaen yn y diwydiant hwnnw. Ac felly rwy'n fwy na pharod i gydnabod, gyda hi, y gwaith a wnaed eisoes, a dweud bod Llywodraeth Cymru'n barod i gefnogi'r cymunedau, y Cymoedd, wrth iddynt ddod ynghyd i fanteisio ar y chwyldro diwydiannol newydd.