Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Mae ein cynllun 'Cymru Sero Net', a lansiwyd yn ddiweddar, yn ein rhoi ar y trywydd iawn i gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol, teuluoedd, cymunedau a busnesau yn sir Benfro ar ystod eang o brosiectau i ddatblygu'r seilwaith gwyrdd i gyflawni hyn.