Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 10 Tachwedd 2021.
Diolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn, ac am ei ymrwymiad, o'r eiliad y cafodd ei ethol, i'r agenda hon. Gwn pa mor angerddol y mae'n teimlo ynglŷn â hyn, yn anad dim am fod ganddo brofiad uniongyrchol ohono. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oedran yn nhymor y Senedd hon. Cânt eu darparu yn unol â blaenoriaethau'r economi yn yr union ffordd y mae'n ei disgrifio. Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth â darparwyr addysg bellach, cyflogwyr, ac yn bwysig, undebau llafur, y gallwn wneud cynnydd yn y maes hwn, fel y mae'n dweud.