Diogelu Cymunedau Cymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 10 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:59, 10 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Mae Brexit a COVID-19 wedi dwysáu'r heriau i seilwaith economaidd-gymdeithasol cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn ganolog i gyflawniad Cymraeg 2050. Mae ein rhaglen waith yn canolbwyntio ar gyfyngu ar effaith a sicrhau cynaliadwyedd a ffyniant ein cymunedau Cymraeg, a byddaf yn cyhoeddi ein cynlluniau'n fuan.