Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Rwy'n diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Bydd COP26 yn rhoi cyfleoedd i Gymru arloesi, cydweithio a datblygu partneriaethau rhyngwladol i'n helpu i gyflawni ein huchelgais sero-net erbyn 2050. Byddwn yn cynyddu ein hallforion sgiliau a gwasanaethau gwyrdd ac yn denu buddsoddiad i Gymru wrth geisio sicrhau trosglwyddiad cyfiawn i sero-net.