Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC ychydig dros wythnos yn ôl, dywedodd eich swyddog cyfatebol yn San Steffan, Syr Keir Starmer, ei fod yn dymuno gwneud i Brexit weithio. Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi beth yw eich dealltwriaeth chi o'r ymadrodd hwnnw neu sut yr ydych chi'n ei ddehongli? A fyddwch chi'n ei gynghori, er budd pennaf Cymru, yn ogystal â'r DU, y dylai olygu, o leiaf, ailymuno ag undeb tollau a marchnad sengl yr UE?