Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Llywydd, rydym ni wedi datgan argyfwng hinsawdd yn briodol ac mae angen i ni weithredu yn unol â hynny yn awr. Rydym ni wedi gweld rhywfaint o gynnydd o ran ymateb i raddfa'r her. Cytunodd y Senedd hon ym mis Mawrth i newid ein targedau deddfwriaethol. Erbyn hyn, mae gan Gymru darged sero-net ac, ychydig wythnosau'n ôl, gwnaethom gyhoeddi ein cynllun Cymru Sero-Net—ffordd gredadwy ac ymarferol o leihau allyriadau carbon dros y pum mlynedd nesaf, gan ein gosod ar y llwybr i ddyfodol cryfach, tecach a gwyrddach.
Gwnaethom gyflwyno ein cynllun, er ein bod yn wynebu oedi yn y cyngor a gawsom gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU, oherwydd ein bod ni'n dymuno mynd i COP gyda chynllun credadwy, gan nodi ymrwymiad Cymru i chwarae ein rhan. Roedd angen i COP26 fod yn foment allweddol, nid yn unig i Gymru ond yn fyd-eang. Hon oedd y bumed uwchgynhadledd ers cytundeb Paris yn 2015, a'r cyfle cyntaf i farnu uchelgais a chamau gweithredu cyfunol y byd i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae hyn yn golygu gweithredu ar allyriadau, ond hefyd ar addasu ac ystyried sut yr ydym yn cefnogi gwledydd datblygol i ymdrin â chanlyniadau tanau gwyllt, sychder, ymchwydd stormydd, llifogydd a lefelau'r môr yn codi.
Roedd Llywodraeth Cymru yn bresenoldeb gweithredol drwy gydol uwchgynhadledd COP, fel rhan o ddirprwyaeth y DU. Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau eraill y Senedd hefyd yn Glasgow, yn cynrychioli ein Senedd. Ac rwy'n gobeithio bod eu profiadau mor heriol ac ysbrydoledig ag yr oedd rhai Julie James a minnau. Fe wnaethom ni glywed yn uniongyrchol gan bobl Guarani yng nghoedwig law Brasil, a gan bobl Wampis ym Mheriw. Mae eu coedwigoedd nhw yn dal yr hyn sy'n cyfateb i holl allyriadau Cymru yn flynyddol. Cafodd y ddau ohonom ein taro gan yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu wrth i'w cartrefi a'u diwylliannau gael eu bygwth gan ffermwyr a choedwyr, mewn ymateb uniongyrchol i'r galw gan ddefnyddwyr o'n gwledydd ni ac eraill. A'r neges o COP yw bod angen i ni newid.
Drwy gydol yr uwchgynhadledd, fe wnaethom ni ymgysylltu â phobl ifanc a chawsom ein hysbrydoli gan eu penderfyniad a'u dicter. Gwnaethom gyfnewid nodiadau gydag arweinwyr o leoedd fel Sao Paulo, Québec, a Chaliffornia, gan rannu'r gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu a chyfnewid dealltwriaeth. Ymysg llawer o'r cyfarfodydd cofiadwy, siaradodd y Prif Weinidog yn ddwyochrog â Llywodraethwr Louisiana, sydd â degau o filoedd o bobl yn byw mewn ystafelloedd gwesty yn dilyn corwynt Aida. Manteisiodd ar y cyfle i ddefnyddio ein haelodaeth o'r rhwydwaith economi llesiant i sicrhau bod trosglwyddo i ddyfodol gwyrddach yn un sydd â phobl wrth ei wraidd. Fe wnes i gyfarfod â Jenipher Sambazi o Mbale yn Uganda, sy'n enghraifft ysbrydoledig o sut mae menywod yn arwain y ffordd o ran ymladd newid hinsawdd, a chefnogi eu cymunedau i'w gwneud yn gydnerth ar gyfer y dyfodol.
Gwnaethom hefyd chwarae ein rhan yn annog eraill i gamu ymlaen a gweithredu. Mae ein haelodaeth weithredol mewn rhwydweithiau fel RegionsAdapt a'r Gynghrair Dan2 yn ddull gweithredu allweddol ar gyfer hyn. Yn 2015, roedd Cymru'n un o sylfaenwyr y Gynghrair Dan2, sydd bellach wedi tyfu i ddod â 260 o lywodraethau ynghyd, sy'n cynrychioli 50 y cant o'r economi fyd-eang a rhyw 1.75 biliwn o bobl. Gyda phwyslais ar y lefel is-genedlaethol fel y'i gelwir, mae'r gynghrair yn cynnig cyfle i ni ymgysylltu a chysylltu â chenhedloedd byd-eang, a dysgu oddi wrthyn nhw a chael ein hysbrydoli ganddyn nhw. Mae'r grŵp yn arbennig o bwysig lle mae'r llywodraethau cenedlaethol yn amharod i wneud penderfyniadau anodd, neu le mae gweithredu'n araf. Er enghraifft, pan oedd yr Arlywydd Trump mewn grym, gan dynnu America allan o gytundeb Paris, fe wnaeth y gynghrair y gwnaethom ni helpu i'w chreu ganiatáu i ddwsinau o daleithiau aros mewn cysylltiad â'r agenda newid hinsawdd fyd-eang a gwneud cynnydd. Mewn cyfnod o adfyd a newid byd-eang, mae swyddogaeth y llywodraethau gwladol a rhanbarthol hyd yn oed yn bwysicach gan fod cymaint o'r newid sydd ei angen ar lefel leol.
Yn yr un modd, roeddwn i'n falch ein bod yn rhan o'r Gynghrair Y Tu Hwnt i Olew a Nwy, a gafodd ei lansio yn yr uwchgynhadledd, dan arweiniad Costa Rica a Denmarc, sef cynhyrchydd olew mwyaf yr Undeb Ewropeaidd. Ni oedd yr unig genedl yn y DU i fod yn rhan o'r 10 aelod craidd. Ac rwy'n credu, drwy greu momentwm, y byddwn yn helpu eraill i ymuno â'r gynghrair honno i ddangos ffordd ymarferol ymlaen. Ni waeth beth fo canlyniadau COP, mae'n rhywbeth y gallwn ni ei wneud.
Fel rhan o'i rhaglen hi, roedd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn bresennol yng nghynulliad cyffredinol y Gynghrair Dan2, lle buom yn edrych ar sut y gallem ni gynyddu ein gwaith allgymorth, blaenoriaethu gweithredu a rhannu a dysgu oddi wrth ein gilydd. Er enghraifft, rydym yn gweithio drwy bartneriaethau fel fforwm polisi allyriadau sero-net de Awstralia, sy'n edrych ar gyflymu'r trosglwyddo i sero-net. Yn y cynulliad, pwysleisiodd yr angen am drawsnewid teg a chyfiawn, heb eithrio neb nac unrhyw le wrth i ni symud tuag at ddyfodol gwyrddach. Soniodd hefyd am sut yr ydym yn cefnogi Cronfa'r Dyfodol, sy'n sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed mewn digwyddiadau fel COP, a sut yr ydym wedi ymrwymo i weithio gydag eraill, fel Llywodraeth yr Alban, drwy'r Gynghrair Ariannu Trawsnewid Cyfiawn.
Gan fod COP26 bellach wedi dod i ben, hoffwn dynnu sylw'r Senedd at yr hyn sydd wedi ei gyflawni yn ogystal â'r camau nesaf, sy'n hollbwysig. Gwnaed cynnydd gwirioneddol o ran methan, o ran cyllid byd-eang a dechrau symud gwledydd y tu hwnt i lo, olew a nwy. Ond mae gennym ni lawer mwy i'w wneud i ysgogi'r uchelgais a'r camau sydd eu hangen i osgoi cynhesu byd-eang trychinebus yn ystod oes ein plant. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gymryd y camau sydd eu hangen i chwarae ein rhan deg ar y llwyfan byd-eang, ac anogaf Aelodau'r Senedd i ymuno â'r ymrwymiad hwnnw. Diolch.