Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Yn gyntaf, mae'n bleser gen i gyhoeddi £5 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer rhaglenni darllen ledled Cymru, a fydd yn darparu llyfr ar gyfer pob dysgwr ochr yn ochr â chynllun cymorth darllen wedi'i dargedu, gyda phwyslais ar ddysgwyr y blynyddoedd cynnar a dysgwyr difreintiedig. Bydd y rhaglen yn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru ei lyfr ei hun i'w gadw. Bydd hefyd yn cynnwys darparu 72,000 o lyfrau ychwanegol i blant derbyn mewn ysgolion ledled Cymru, 3,600 o becynnau clwb blwch llythyrau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, llyfrau a hyfforddiant i ymarferwyr i gefnogi dysgu, a blwch o 50 o lyfrau i bob ysgol wladol yng Nghymru. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu plant, waeth beth fo'u cefndir, i ddatblygu'r sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar hynny ac yn dangos yr effaith y gall llyfrau a darllen ei chael i newid bywydau. Mae'r cyllid yn adlewyrchu pwysigrwydd Cymru fel cenedl ddwyieithog ac yn cefnogi dysgwyr i gyfathrebu yn y ddwy iaith mewn bywyd bob dydd.
Mae'n rhaid i ni hefyd gefnogi ein gweithlu. Mae addysg gychwynnol athrawon a dysgu proffesiynol parhaus yn hanfodol i ffurfio a pharhau i wella arfer pob ymarferydd yn y maes hwn. Trwy weithio gyda darparwyr addysg athrawon a chonsortia dros y misoedd nesaf, byddwn yn cychwyn adolygiad o'r ddarpariaeth bresennol i sicrhau bod ymarferwyr yn parhau i gael y cymorth o ansawdd uchel sydd ei angen arnyn nhw ledled Cymru. Gan ategu adroddiadau Estyn a thystiolaeth ymchwil, byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid rhanbarthol i gynnal a gwella agweddau at ddarllen ac ymgysylltiad â darllen. Bydd Estyn yn parhau i ddarparu enghreifftiau o arfer effeithiol o ran addysgu darllen ar lefel ysgol gyfan a datblygu diwylliant o ddarllen. A byddwn yn edrych ar effaith ein hymyriadau er mwyn i ni allu gwella fel system a chefnogi ymgysylltiad a chyrhaeddiad plant a phobl ifanc mewn darllen a llafaredd.
Mae canllawiau Cwricwlwm i Gymru yn glir bod yn rhaid i addysgu ffoneg mewn modd systematig a chyson fod yn rhan allweddol o'r pecyn cymorth yn ein hysgolion, ar gam pryd y mae hynny'n briodol yn ddatblygiadol i'r dysgwr. Rydym yn annog ysgolion i fabwysiadu dull gweithredu o'r fath ochr yn ochr â datblygu geirfa a dealltwriaeth er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn gallu deall a gwneud synnwyr o'r hyn y maen nhw'n ei ddarllen a bod yn ddarllenwyr rhugl ac effeithiol. Mae'n rhaid i'r holl addysgu fod wedi ei seilio ar dystiolaeth o'r hyn yr ydym yn gwybod sy'n gweithio, ac felly rwyf i'n bwriadu egluro a chryfhau ein dull gweithredu yn y maes hwn. Yn ddiweddar, sefydlais rwydwaith cenedlaethol, corff wedi ei arwain gan ymarferwyr, sydd ar gael i bob ysgol, a fydd yn cefnogi'r gwaith o weithredu'r cwricwlwm newydd. Gallaf gadarnhau y bydd ein rhwydwaith cenedlaethol yn blaenoriaethu llafaredd a darllen yn y gwanwyn. Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr ac ymarferwyr i edrych ar y rhan sydd gan ffoneg yn y cwricwlwm newydd er mwyn i ni allu darparu'r cymorth a'r arweiniad gorau ar gyfer addysgu darllen.
Yn 2016, nododd y 'Rhaglen Llythrennedd a Rhifedd Genedlaethol—cynllun gweithredu strategol' y weledigaeth ar gyfer llythrennedd a rhifedd wrth i ni symud tuag at y cwricwlwm newydd. Er mwyn parhau i ddatblygu hyn, byddwn yn gweithio gydag ymarferwyr drwy'r rhwydwaith cenedlaethol i ddeall beth sy'n gweithio, gan fyfyrio ar addysgeg, enghreifftiau o arfer da a chyfathrebu, yn ogystal â'r hyn y mae angen i ni ei wella. Byddwn hefyd yn ystyried swyddogaeth barhaus y fframwaith llythrennedd a rhifedd o ran cefnogi cynnydd y sgiliau hyn a'r angen am adnoddau a deunyddiau ychwanegol. Bydd hyn yn helpu i ddarparu'r adnoddau, y cymorth a'r arbenigedd sydd eu hangen i hwyluso addysg llafaredd a darllen o ansawdd uchel. Mae gen i ddiddordeb mewn beth arall y gallwn ni fod yn ei wneud i rannu arfer da yn ein blynyddoedd cynnar a'n cyfnod sylfaen. Wrth feddwl am hynny, ein bwriad yw gweithio gydag ymarferwyr ac arbenigwyr dros y misoedd nesaf i ddatblygu pecyn cymorth a fydd yn helpu i rymuso athrawon i ddatblygu eu harfer yn yr ystafell ddosbarth sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr.
Rydym yn gwybod, drwy brofiadau darllen a rennir, y gallwn ni annog cariad at lyfrau a straeon o oedran cynnar. Mae hyn yn arbennig o hanfodol i'n plant ieuengaf, lle mae'r blociau adeiladu ar gyfer datblygiad iaith cynnar yn dechrau datblygu eu sgiliau sylw, gwrando a deall. Mae'r gwaith sydd ar y gweill ar ein rhaglen Siarad gyda Fi yn tynnu sylw at bwysigrwydd datblygiad iaith cynnar a rhan rhieni wrth gefnogi hyn. Yn ddiweddar, rydym ni wedi comisiynu adolygiad o offer sgrinio iaith, wedi ei gynnal gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ac Uned Ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd Bryste, a bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gellir cefnogi ymarferwyr wrth nodi problemau o ran sgiliau gwrando, deall a siarad. Rwy'n disgwyl i adroddiad yr adolygiad gael ei rannu â mi yn ystod yr wythnosau nesaf. Ond gallwn ni wneud mwy ac mae'n rhaid i ni wneud hynny, ac rydym yn archwilio beth arall y gallwn ni ei wneud i ddarparu rhagor o gyfleoedd i gefnogi rhieni, er mwyn i'w plant allu cael cyfleoedd rheolaidd i ymgysylltu â deunyddiau darllen cyfoethog a chymryd rhan mewn straeon, caneuon a rhigymau.
Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid i bob dysgwr gael y cyfle i gyrraedd ei botensial, a heddiw rwyf i wedi nodi rhai o'r camau yr ydym yn bwriadu eu cymryd dros y misoedd nesaf i gefnogi ein dysgwyr. Wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen, byddaf yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd yr ydym yn ei wneud.