Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 16 Tachwedd 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Nid oes unrhyw amheuaeth mai plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef fwyaf drwy'r pandemig hwn. Mae ysgol mor bwysig, nid yn unig ar gyfer dysgu a chymdeithasu, ond o ran darparu strwythur a threfn i blant. Roedd y tri chyfnod o gyfyngiadau symud mor niweidiol i lesiant a chyfleoedd bywyd ein plant ac efallai y bydd cryn amser cyn i ni fod mewn sefyllfa i asesu yn gywir y niwed y mae'r amser dysgu coll hwn wedi ei achosi.
Fel yr ydych chi'n ei ddweud yn eich datganiad, Gweinidog, mae sgiliau siarad, darllen a gwrando yn gwbl sylfaenol i bron â bod pob agwedd ar ein bywydau, ac felly, mae mor hanfodol bwysig ein bod ni'n cael yr agwedd hon yn iawn drwy addysg yng Nghymru. Rwy'n pryderu ynghylch yr effaith y mae'r cyfyngiadau symud wedi ei chael ar blant yn hyn o beth, ond mae eich camau gweithredu arfaethedig a amlinellir yn y datganiad hwn heddiw yn ymddangos braidd yn wan ar y gorau, os caf i ddweud hynny: yn addo adolygiadau, yn sefydlu gweithgorau, heb unrhyw gamau gwirioneddol i fynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu wrth sicrhau bod pob plentyn yn cael ei gefnogi'n llwyr ym mhob ffordd orau bosibl drwy eu taith addysgol i sicrhau ei fod yn dod i ddiwedd ei daith addysg gyda'r cyfleoedd gorau posibl, ni waeth o ba gefndir y mae'n dod.
Rwy'n croesawu'r arian a fydd yn cael ei roi i fynd i'r afael â hyn; rwy'n croesawu'r arian ar gyfer llyfrau ychwanegol, ond ai un llyfr unigol fydd hyn, Gweinidog, i bob dysgwr, uwchlaw oedran derbyn, ar gyfer ei holl daith addysg? Neu a fydd hon yn rhaglen dreigl lle bydd disgyblion yn cael llyfr gan y Llywodraeth hon bob blwyddyn? A sut yn union y bydd y £5 miliwn yn cael ei wario o ran targedu'r cynllun cymorth darllen i fynd ochr yn ochr â'r llyfr? A fydd hyn yn golygu y bydd mwy o arian yn mynd yn syth i'n hysgolion oddi wrth y Llywodraeth hon i'w galluogi i ddewis y llyfrau sydd fwyaf addas ar gyfer eu hysgolion a'u grwpiau oedran nhw? A fydd hyn yn golygu y bydd mwy o arian yn mynd yn syth i'r ysgolion er mwyn iddyn nhw gyflogi staff newydd i gefnogi mwy o ddarllen, neu a fydd disgwyl i'r gweithlu presennol wneud y gwaith newydd hwn? A fydd yr arian hwn ar gyfer y dysgwyr cynnar neu'r dysgwyr difreintiedig yn unig, neu a fydd yn arian i roi cyfle teg i bawb pan fo'n fater o geisio gwella sgiliau darllen a llafaredd disgyblion?
Er fy mod i'n croesawu'n fawr unrhyw gymorth ychwanegol i'n staff addysgu fel y gwnaethoch ei amlinellu, ac rwyf i yn croesawu hynny, rwy'n gweld yn y datganiad 'dros y misoedd nesaf' a 'byddwn yn edrych y gwanwyn nesaf ar', a llawer o eiriau nad ydyn nhw'n ennyn llawer o hyder eich bod chi'n mynd i'r afael â'r broblem hon yn uniongyrchol, yn awr. Rydych chi'n dweud y byddwch yn edrych ar effaith eich ymyriadau, er mwyn i chi allu gwella'r system, ond pa fath o amserlen ydym ni'n sôn amdani, Gweinidog? Ai dyma'ch uwchgynllun i Gymru yn wirioneddol? Oherwydd siawns mai'r hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru yw mwy o athrawon, mwy o athrawon i bob disgybl, er mwyn i'r plant gael y canlyniadau y maen nhw'n eu haeddu. Pa gamau brys ydych chi'n eu cymryd yn awr, Gweinidog, i sicrhau bod y plant hynny sydd wedi colli sgiliau darllen, dysgu a llafaredd yn ystod y cyfyngiadau symud—? Beth ydych chi'n ei roi ar waith mewn gwirionedd i sicrhau bod y plant hynny yn cael cyfleoedd gwirioneddol i wneud iawn am y dysgu coll hwnnw yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf?
Bydd plant hŷn yn fwy hunangynhaliol o ran eu dysgu eu hunain, ond i ddisgyblion iau, bydd amser i ffwrdd o'r ysgol wedi arwain at golli llawer o amser darllen. O ran plant yn y cyfnod sylfaen sydd ar ei hôl hi o ran eu sgiliau darllen a siarad, rwyf i wedi clywed llawer o dystiolaeth anecdotaidd gan rieni ac athrawon, ond pa waith y mae eich swyddogion gweinidogol wedi ei wneud i fesur y gostyngiad hwn? Mae'n bwysig iawn, wrth ystyried mynd i'r afael â heriau dysgu coll, ein bod ni'n gwybod beth rydym yn ymdrin ag ef a maint y broblem mewn gwirionedd. Dim ond wedyn y byddwn yn gallu penderfynu sut i gau'r bwlch cyrhaeddiad cynyddol hwnnw. Ac a wnewch chi hefyd, Gweinidog, fesur y gostyngiad yn awr o'i gymharu â dechrau'r pandemig?
Rydych chi'n iawn wrth ddweud bod angen i ni rannu arfer gorau; dyna'r ffordd ymlaen bob amser, yn fy marn i, o ran mynd i'r afael â sgiliau darllen a llafaredd, ond sut y bydd ysgolion yn gweithio gyda chonsortia i rannu arfer gorau? Oherwydd drwy gydol y pandemig, nid yw hyn wedi bod yn digwydd fel y bu yn flaenorol. Mae angen i ni ddychwelyd i sefyllfa lle ceir goruchwyliaeth annibynnol a chadarn o safonau ysgolion drwy'r consortia ac Estyn i roi sicrwydd i rieni.
Mae llafaredd a llythrennedd cynnar yn bwysig iawn i ddatblygiad plant, ac rwyf i o'r farn ei fod wedi ei anwybyddu yn aml fel un o sylfeini allweddol datblygiad plentyn, yn enwedig dros y 18 mis diwethaf. Mae 'Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu' yn arf defnyddiol i weithwyr proffesiynol a rhieni gefnogi datblygiad plant, ond ni fydd pob rhiant yn ymgymryd â'r swyddogaeth hon. Rwy'n gweld yn uniongyrchol yr effeithiau y mae darllen i blentyn yn rheolaidd yn eu cael ar fy mhlant fy hun, 11 a dau. Mae geirfa fy mhlentyn dwy flwydd oed yn wych ar gyfer ei oedran gan fy mod i wedi buddsoddi'r amser hwnnw gydag ef, ond sut, Gweinidog, ydym ni'n mynd i gefnogi rhieni nad ydyn nhw'n gallu, neu nad ydyn nhw'n gwybod sut i gefnogi eu plant yn yr un modd? Cafwyd menter wych gan fy ysgol gynradd leol lle'r oedd rhieni'n gallu dod i mewn, os oedden nhw'n dymuno gwneud, a darllen gyda phlant, darllen yn uchel mewn ystafelloedd dosbarth yn ystod y cyfnod hwnnw, gan helpu i gefnogi athrawon a phlant eraill yn ogystal â dysgu sut i ddarllen gyda phlentyn eu hunain, i gael y canlyniadau gorau posibl gan y plant. Efallai fod hyn yn rhywbeth y gellid ymchwilio iddo ymhellach.
Hefyd, ac yn olaf, mae'r rhaglen Dechrau'n Deg wedi mynd gryn ffordd i gefnogi datblygiad iaith a lleferydd plant cyn iddyn nhw fynd i addysg ffurfiol. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig eisoes wedi galw am i'r rhaglen Dechrau'n Deg fod ar gael i bob plentyn, oherwydd ei bod yn loteri cod post yn hyn o beth o hyd, ac mae'n eithrio cymaint o bobl a phlant a fyddai'n elwa ar y cymorth Dechrau'n Deg hwn. Mae'r sefyllfa bresennol sydd gennym yn un o eithrio ar hyn o bryd a hoffwn i ofyn i chi, Gweinidog, a wnewch chi ystyried ymestyn y rhaglen hon i gyrraedd pob plentyn yng Nghymru.