Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y ddadl hon, byddaf yn nodi'r angen dybryd i gynhyrchu cynllun a ariennir ar y cyd ac a gefnogir gan y Llywodraeth i unioni gwaith nad yw'n ddigon da ar osod cladin allanol a rhywfaint o gladin waliau mewnol mewn cartrefi yng Nghaerau yn fy etholaeth o dan raglen arbed ynni yn y gymuned 2012-13/Arbed 1, ac i wneud iawn am y difrod a wnaed i gartrefi a bywydau pobl.
Mater o gyfiawnder naturiol yw hwn. Bron i ddegawd yn ôl, addawyd cartrefi cynhesach a mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni gyda biliau is i drigolion. Yn yr achosion gwaethaf, maent bellach yn dioddef lleithder a llwydni helaeth ac amodau dirywiol, lle mae gwaith gosod diffygiol wedi niweidio nid yn unig eu cartrefi ond eu bywydau. Felly, Weinidog, gofynnaf i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy a chwarae rhan arweiniol i ddatrys y materion hyn, oherwydd yn syml iawn, ni all neb arall wneud hyn bellach.
Rwy'n ymwybodol fod enghreifftiau eraill o insiwleiddio is-safonol mewn rhannau eraill o Gymru, ac yn wir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond fy nadl i i'r Gweinidog, serch hynny, a dadl trigolion yng Nghaerau, yw bod maint y difrod yng Nghaerau, nifer y cartrefi yr effeithiwyd arnynt a'r ffaith bod hyn wedi bod yn digwydd ers amser hir, yn golygu bod angen cynllun ar frys i ddatrys y materion hyn. Mae'n hen bryd. Mae angen inni ddatrys hyn yn awr.
I ddechrau, gadewch imi ailddatgan fy nghefnogaeth i bwysigrwydd hanfodol ôl-osod o ansawdd da mewn cartrefi hŷn, oerach ac aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni. Yn wir, ym mis Gorffennaf, nododd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru pa mor enfawr yw'r her, ond hefyd nododd y manteision enfawr o wneud y penderfyniadau cywir ar ôl-osod ac effeithlonrwydd ynni. Dadleuodd y gellid dileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2030, gyda £15 biliwn—yn ei geiriau hi—o fuddsoddiad trawsnewidiol i ôl-osod cartrefi er mwyn lleihau'r galw am ynni a gwresogi, gan arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn i dalwyr biliau a £8.3 biliwn y flwyddyn ar filiau erbyn 2040, gan wella a moderneiddio stoc enfawr Cymru o dai hŷn, creu 26,500 o swyddi bob blwyddyn mewn cymunedau ledled Cymru erbyn 2030, arbed £4.4 biliwn i'r GIG erbyn 2040, a helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswyddau cyfreithiol i sicrhau allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.