Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Mae'r mater difrifol hwn wedi cael ei gydnabod gan Ofgem mewn cyfarfodydd gyda fy swyddogion. Mae'r awdurdod lleol wedi mynd ati i edrych ar ariannu gwaith adfer gyda'r cyflenwyr ynni a ariannodd y gwaith gwreiddiol. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfarfod bord gron i drafod y materion rhwng yr awdurdod lleol a gweinyddwr y cynllun, Ofgem. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, mae'r rhain wedi bod yn aflwyddiannus, ond rydym yn parhau i ddadlau'r achos ar ran y deiliaid tai yr effeithiwyd arnynt.
Yn y cyfamser, mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y mis diwethaf, daeth achos busnes amlinellol i law'n gofyn am gymorth ariannol i atgyweirio'r 104 o gartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr. Rwy'n deall mai bwriad yr awdurdod lleol yw rheoli'r gwaith o adfer yr eiddo i gyflwr addas, drwy gymorth cyllid ganddynt eu hunain a chan y Llywodraeth. Mae'n amlwg nad yw'n iawn i breswylwyr orfod talu'r costau am gwaith adfer. Mewn rhai achosion, gallai'r gost fod oddeutu £30,000—swm sydd ymhell y tu hwnt i gyrraedd rhai o'r aelwydydd incwm isaf yng Nghymru. Yn anffodus, nid wyf eto wedi cael cyngor gan swyddogion ar y penderfyniad i ariannu'r cynllun yn seiliedig ar yr achos busnes a gyflwynwyd, ond wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod a'r Senedd pan fyddaf wedi'i gael. Fodd bynnag, fe fydd yn ymwybodol fod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi bod yn siomedig i Gymru. Bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau cyllidebol anodd y bydd yn rhaid eu hystyried yn eu cyfanrwydd. I fod yn glir iawn, ni lwyddodd y gwaith a ariannwyd drwy gynllun Llywodraeth y DU ddarparu'r sicrwydd a'r mesurau diogelu angenrheidiol i berchnogion cartrefi. Rwyf wedi bod yn glir yn fy sylwadau i Lywodraeth y DU mai eu cyfrifoldeb hwy yw sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer gwaith adfer. Yn eu hymateb cychwynnol, awgrymodd Llywodraeth y DU y dylai deiliaid tai gysylltu â Cyngor ar Bopeth am gymorth. Dengys hyn eu bod yn esgeuluso eu cyfrifoldeb, ac ysgrifennais unwaith eto at yr Arglwydd Callanan ar 29 Medi i ddadlau'r achos, ond nid wyf wedi cael ymateb eto.
Rwy'n awyddus iawn i ddatrys y sefyllfa ofnadwy hon i'r 104 o drigolion yng Nghaerau sydd wedi cael cam yn sgil y cynllun gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n ymwybodol fod prosiectau eraill a gyflawnwyd drwy'r rhaglen hon wedi cael problemau, nid yn unig yng Nghymru, ond yn Lloegr hefyd. Pan gaiff ei ddylunio a'i osod yn gywir, mae inswleiddiad waliau allanol yn ffordd effeithiol o wella effeithlonrwydd ynni thermol domestig i gefnogi pobl Cymru, ond ni fydd hynny'n llawer o gysur i drigolion Caerau, lle gwnaed gwelliannau sylweddol ar draws y sector i sicrhau bod gwersi'r gorffennol yn cael eu dysgu.
Mae'r gwersi, fel yr awgrymodd Huw, wedi helpu i lunio cynlluniau effeithlonrwydd ynni yn y cartref tebyg yng Nghymru ers 2015, wrth inni barhau i fuddsoddi yn y gwaith o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol yng Nghymru, yn enwedig y cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni, wrth inni fynd i'r afael â newid hinsawdd. Wrth inni gynorthwyo cartrefi i fod yn fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, mae'n bwysig iawn ein bod yn canolbwyntio ar adeiledd yn gyntaf, a'r gwaethaf eu byd yn gyntaf, i leihau effaith tlodi tanwydd ar aelwydydd yng Nghymru. Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm is yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gefnogi aelwydydd i leihau eu biliau ynni a'u helpu allan o dlodi tanwydd.
Dylai'r un ansawdd gwasanaeth sydd bellach ar gael drwy ein rhaglen Cartrefi Clyd yng Nghymru fod wedi cael ei gynnig i drigolion Caerau. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £394 miliwn ers 2011 drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd i sicrhau gwelliannau effeithlonrwydd ynni i fwy na 67,100 o gartrefi yng Nghymru. Mae'n dangos bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar wella ansawdd cynnyrch a gwaith ers i gynllun Caerau gael ei ddatblygu, ac mae'n cynnwys camau i roi sicrwydd i'r Llywodraeth a deiliaid tai. Mae cyflwyno safonau PAS 2030 a PAS 2035 yn 2019 hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y mesurau ôl-osod tai sy'n cael eu cynllunio a'u gosod. Wrth inni ddechrau'r ymgynghoriad ar gam nesaf ein rhaglen Cartrefi Clyd, mae'n hanfodol fod gan ddeiliaid tai hyder y bydd ein cynllun yn cyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni o'r safon uchaf o ran eu cynllun a'r gwaith o'u gosod. Wrth gwrs, mae'n rhaid i drefniadau fod ar waith i sicrhau, os bydd pethau'n mynd o chwith, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, eu bod yn cael eu hunioni'n gyflym heb oedi a straen diangen i ddeiliaid tai. Rwy'n disgwyl y byddwn yn dechrau ein hymgynghoriad cyn diwedd mis Rhagfyr fan bellaf, ond gallaf rannu gyda'r Aelodau yn awr fy mod yn bwriadu sicrhau lle canolog yn y rhaglenni ôl-osod i'r trefniadau sicrhau ansawdd a gyflwynwyd yn PAS 2030 a 2035.
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ledled Cymru, gan wella effeithlonrwydd ynni, lleihau biliau tanwydd a lleihau allyriadau carbon. Credwn fod ôl-osod cartrefi oer a drafftiog yn elfen bwysig o fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella lles ein dinasyddion. Ac fel y rhagwelodd Huw yn gywir, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi cyllid pellach yn ddiweddar ar gyfer ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Mae'r £50 miliwn sydd ar gael eleni a £150 miliwn arall dros y tair blynedd nesaf yn dangos ein hymrwymiad i'r agenda hollbwysig hon.
Mae'r rhaglen yn mabwysiadu dull profi a dysgu o gyflawni ffyrdd o ddatgarboneiddio cartrefi cymdeithasol sy'n bodoli eisoes. Drwy weithio fel hyn ac edrych ar ein stoc dai ar sail cartrefi unigol, gallwn osgoi ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol. Bydd y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn gwella effeithlonrwydd ynni ac yn lleihau ôl troed carbon y cartrefi, ac wrth wneud hynny, bydd yn helpu i sicrhau bod y bobl sy'n byw yno yn gynhesach ac yn arbed arian. Yn bwysig, defnyddir y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'n gwerthusiad o ddata ynni clyfar ac effaith technolegau ôl-osod i ddarparu cysyniadau a brofwyd yn feirniadol a all lywio gwaith ôl-osod ehangach ar draws deiliadaethau. Cofiwch, os ydym am gyrraedd ein targedau lleihau carbon, mae angen inni helpu 1.4 miliwn o gartrefi i ddatgarboneiddio a bod mor effeithlon ag sy'n bosibl o ran eu defnydd o ynni.
Tra'n bod yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o gefnogi landlordiaid cymdeithasol a pherchnogion cartrefi drwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a Cartrefi Clyd, rhaid inni beidio ag anghofio am drigolion Caerau. Mae'n rhaid i'r sefyllfa y maent ynddi, a hynny heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, fod yn eithriad llwyr yn hytrach na sefyllfa sy'n gyffredin mewn unrhyw fodd. Rwy'n gobeithio y bydd ein hymrwymiad i fynd ar drywydd Llywodraeth y DU i gael ymateb teg a phenderfyniad i ddysgu gwersi o'r cynllun diffygiol hwn gan San Steffan a'n gwaith ar sicrhau dyfodol gwyrddach yng Nghymru, sy'n gwneud llesiant yn flaenoriaeth yn ein penderfyniadau, yn rhoi rhywfaint o gysur i'r Aelod tra bo fy swyddogion yn cwblhau eu cyngor mewn ymateb i'r achos busnes a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn y cyfamser, rwy'n ei annog ef a'r Aelodau eraill i fynegi eu barn yn rhan o'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd. Drwy ymgysylltu a chydweithio, gallwn sicrhau—