Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:46, 17 Tachwedd 2021

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Yn sgil COP26 yr wythnos diwethaf, dwi eisiau holi am rôl llywodraeth leol wrth helpu Cymru i gwrdd â'i hymrwymiadau o safbwynt torri allyriadau carbon, a'ch rôl chi, wrth gwrs, fel Gweinidog llywodraeth leol yn hynny o beth. Dwi'n deall bod 16 awdurdod lleol erbyn hyn wedi datgan argyfwng hinsawdd. Nawr, man cychwyn yw hynny, wrth gwrs, mewn proses hirach, ac mae yn siomedig bod yna chwe awdurdod mae'n debyg sydd dal hyd yn oed heb wneud hynny. Ond mae datgan yn beth hawdd i'w wneud, wrth gwrs; y gweithredu sy'n bwysig yn sgil hynny. Ac mae yna wahanol awdurdodau lleol ar gyfnodau gwahanol o'r daith honno, mae'n debyg—rhai yn fwy blaengar ac yn delio â'r mater yn fwy ystyrlon ac mewn modd mwy uchelgeisiol na'i gilydd efallai. Ond fy nghwestiwn cyntaf i i chi yw: beth ŷch chi'n ei wneud i annog, i gefnogi a hyd yn oed i orfodi, mewn rhai sefyllfaoedd, awdurdodau lleol Cymru i helpu gyda'r gwaith o gael y maen i'r wal o safbwynt gostwng allyriadau?