Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch ichi am hynny. Mi gyfeirioch chi at y WLGA, ac maen nhw, wrth gwrs, wedi galw ar y Llywodraeth i ddarparu'r arfau—y twls—a'r adnoddau i lywodraeth leol i allu 'baseline-o' a mesur cynnydd yn lleol yn erbyn targedau newid hinsawdd, fel eu bod nhw'n gallu gwneud hynny mewn modd cywir a chyson ar draws Cymru. Nawr, mi allai hynny, wrth gwrs, fod yn sail i greu targedau net sero lleol—hynny yw, dadgyfuno neu 'disaggregate-o' targedau net sero ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Licen i glywed os ydych chi'n cytuno y byddai hynny'n rhoi cymhelliad i bob awdurdod lleol, yn enwedig y rhai efallai sydd ychydig ar ei hôl hi, i ymateb gyda mwy o arddeliad i'r argyfwng hinsawdd a natur, ac a ydy hynny yn rhywbeth ŷch chi a'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ei ystyried?