Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn. Nid wyf yn credu y byddwn yn anghytuno â'r hyn rydych wedi'i ddweud ynglŷn â'r pwysau difrifol ar wasanaethau cymdeithasol, ac yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau plant. Hoffwn eich sicrhau bod fy swyddogion ar hyn o bryd yn gweithio gyda llywodraeth leol i nodi lle mae'r pwysau a lle gall cyllid ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon fod o ddefnydd, o gofio'r pwynt a wnaethoch fod nifer y plant sydd ag atgyfeiriadau'n cynyddu, ond hefyd y cymhlethdod am yr holl resymau y byddem yn eu deall yng nghyd-destun eu profiadau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. Felly, mae'r cyllid ychwanegol yno eisoes eleni, ond rwy'n fwy na pharod i edrych am ragor pe bai ei angen. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau ar hyn o bryd.
Ac yna, wrth gwrs, mae cadw staff o fewn y sector gofal cymdeithasol yn hollbwysig. Yn amlwg, maent wedi cael blwyddyn neu ddwy wirioneddol anodd hefyd o safbwynt y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud, yn cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ac mae ein hymrwymiad i dalu'r cyflog byw gwirioneddol yn un pwysig iawn, yn ogystal â ffyrdd eraill o edrych ar gydnabod a chynnal gweithwyr gofal cymdeithasol. Er enghraifft, weithiau gofynnir iddynt dalu am rai o'r pethau y maent eu hangen ar gyfer eu swydd; mae angen inni edrych ar hynny i weld a oes mwy y gallwn ei wneud yn y meysydd hynny. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyfarfod bob wythnos yn awr gyda llefarydd ac arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i archwilio beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol.