Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Teimlaf fod angen siarad dros gyd-bwyllgorau corfforedig o ystyried rhai o'r materion sydd wedi codi yn y Siambr y prynhawn yma. Rwyf wedi bod yn gwneud gwaith gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Stagecoach a Trafnidiaeth Cymru er mwyn ceisio sicrhau gwell cysylltiadau bws ag Ysbyty Athrofaol y Faenor ger Cwmbrân, a bydd y llwybr arfaethedig, a gobeithio y gallwn ddechrau ar y gwaith hwnnw, yn cwmpasu tair ardal bwrdeistref sirol. Rwy'n credu y byddai dull cyd-bwyllgor corfforedig sy'n cynnwys darpariaeth drafnidiaeth o'r fath yn datrys rhai o'r problemau a gafwyd yn y gorffennol, a theimlaf fod gan gyd-bwyllgorau corfforedig rôl bwysig i'w chwarae yn hynny o beth. A gaiff hynny ei gynnwys mewn unrhyw ddarpariaethau yn y Bil bysiau yn y dyfodol, ac a yw'r Gweinidog yn cytuno y gall cyd-bwyllgorau corfforedig ddarparu'r lefel honno o gymorth?