Buddsoddi mewn Isadeiledd yn y Gogledd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 2:23, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi cael ymateb ynglŷn â hynny hefyd a dywedwyd wrthyf ei fod yn cael sylw, gyda swyddogion yn cyfarfod â swyddogion Wrecsam hefyd. Diolch.

Cafodd gwelliannau ar hyd yr A55 yng Ngwynedd 50 y cant o gyllid yr UE i wneud y gwaith. Un enghraifft yn unig yw hon o sut roedd seilwaith gogledd Cymru yn elwa o fod yn fuddiolwr net o gyllid Ewropeaidd. Cawsom addewid na fyddem yn waeth ein byd ar ôl Brexit, ac eto un awdurdod lleol yn unig yng ngogledd Cymru—Wrecsam—a elwodd o'r gronfa newydd, y gronfa codi'r gwastad, a hynny ar gyfer traphont ddŵr Pontcysyllte. Cyflwynodd cyngor sir y Fflint gais am gyllid rhanbarthol â blaenoriaeth uchel ar gyfer prosiectau seilwaith, gan gynnwys gorsaf barcffordd Glannau Dyfrdwy, a fyddai'n gwella mynediad i drigolion gogledd Cymru at 400 o fusnesau a 5,000 o swyddi ym mharc diwydiannol Glannau Dyfrdwy, cyfleusterau parcio a theithio yng ngorsaf Pen-y-ffordd, a gwelliannau ar gyfer cludo nwyddau yn Castle Cement i alluogi cynnydd arfaethedig yn y gwasanaethau ar reilffordd Wrecsam-Bidston i ddau drên yr awr. Ni chafodd dim o hyn ei ariannu. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod Llywodraeth y DU yn gwneud cam â gogledd Cymru drwy beidio â darparu'r un swm o gyllid a buddsoddiad mewn seilwaith ag y byddem wedi'i gael pe byddem yn dal i fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd?