Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch, Llywydd. Wrth inni edrych y tu hwnt i COP26, mae'n rhaid inni, erbyn hyn wrth gwrs, droi ein geiriau yn weithredoedd er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Yn ystod y gynhadledd, cafwyd diwrnod amaethyddiaeth ac fe wnaeth arweinwyr y sector ffermio yng Nghymru ymrwymiadau uchelgeisiol a chadarn iawn i helpu Cymru gyrraedd y nod o fod yn net sero.
Wrth gwrs, rŷn ni'n deall bod angen diwydiant ffermio hyfyw ar Gymru i sicrhau nad ŷn ni'n gweld llai o gamau'n cael eu cymryd i ddiogelu'r amgylchedd naturiol a llai o gyfraniadau economaidd gan y sector i economi Cymru. A dŷn ni ddim, yn sicr, eisiau gweld effeithiau negyddol ar yr hinsawdd drwy fewnforio cynnyrch fferm o wledydd tramor, fel ŷn ni wedi clywed bydd yn bosibl—o Awstralia a Seland Newydd.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cyhoeddodd Hybu Cig Cymru ddiweddariad i'w hadroddiad, 'Perffeithio'r Ffordd Gymreig', sy'n cynnwys canllawiau ar ffermio defaid a chynhyrchu cig eidion mewn ffordd gynaliadwy. Cyhoeddodd NFU UK hefyd adroddiad cynhwysfawr ar sut y gall y sector arwain y ffordd i fod yn net sero. Ac mae hyn yn wahanol iawn i'r geiriau gwag rŷn ni wedi eu cael gan y Torïaid ar newid hinsawdd. A yw'r Gweinidog yn cytuno, felly, fod cyfraniad ffermwyr yn hollbwysig i gyrraedd net sero a'u bod nhw'n rhan o'r ateb ac nid y broblem?