Buddsoddi mewn Isadeiledd yn y Gogledd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:19, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwyf wedi cynnal sawl trafodaeth gyda Gweinidog yr Economi ar amrywiaeth o faterion ledled gogledd Cymru, ac yfory byddaf yn cadeirio pwyllgor y Cabinet ar ogledd Cymru, y bydd y Gweinidog yn ei fynychu. Rydym yn parhau i weithio'n agos iawn gyda'n partneriaid yn y sector cyhoeddus i sicrhau'r buddsoddiadau seilwaith economaidd gorau posibl ar draws pob rhan o Gymru, fel yr amlinellir yn ein rhaglen lywodraethu.