Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 2:34, 17 Tachwedd 2021

Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, dyw'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ddim yn unig wedi torri addewidion ynglŷn â newid hinsawdd am yr ail flwyddyn yn olynol. Rŷn ni wedi gweld addewidion wedi cael eu torri ar gyllid i amaeth yng Nghrymu. Mae toriadau cymharol i ddyraniad cyllid amaeth a datblygu gwledig a gyhoeddwyd yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant fis diwethaf yn torri addewid maniffesto'r Ceidwadwyr i beidio â thorri cyllid gwledig. Dangosodd yr adolygiad gwariant, a rŷch chi'n cofio am 'not a penny less', y byddai £300 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd yn cael ei ddyrannu i Gymru ar gyfer amaeth dros y tair blynedd nesaf. Nawr, mae hyn yn golygu £37 miliwn yn llai na'r gyllideb a ddyrannwyd yn 2019, yn y flwyddyn lle wnaeth y Ceidwadwyr yn eu maniffesto addo na fyddai toriadau yn y gyllideb i ffermwyr yn digwydd. Mae hyn yn golygu y bydd amaethyddiaeth Cymru dros y blynyddoedd nesaf, y pedair blynedd nesaf, yn gweld gostyngiad o £248 miliwn, gan ddatgelu mewn gwirionedd y gwagedd y tu ôl i'r addewidion a wnaed gan y Torïaid, y Brexiteers, yn eu maniffesto yn 2019. 

Felly, sut mae'r toriad hwn yn effeithio ar ymrwymiadau blaenorol y Gweinidog o ran cynnal cyllid cynllun y taliad sylfaenol i ffermwyr dros y blynyddoedd nesaf, a pha gamau y mae hi'n mynd i'w cymryd i sicrhau na fydd y toriadau hyn yn effeithio nac yn tanseilio ffermydd teuluol na'r economi wledig?