Bwyd a Diod o Ddyffryn Clwyd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:02, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Credaf ein bod wedi gwneud hynny drwy Blas Cymru. Dyna ble y down â'r byd i Gymru. Er na allem wneud hynny wyneb yn wyneb fel y gwnaethom yn 2017 a 2019, pan gynhaliwyd Blas Cymru gennym y mis diwethaf, cawsom lawer o gyfarfodydd rhithwir wrth gwrs. Yn amlwg, cafodd eirin Dinbych Dyffryn Clwyd statws enw tarddiad gwarchodedig yn 2019, felly buom yn gweithio'n agos iawn gyda hwy i sicrhau eu bod yn gallu cyflawni hynny. Credaf fod cysylltiad annatod rhwng bwyd a thwristiaeth o ansawdd uchel, felly rydym yn gweithio gyda chwmnïau enw bwyd gwarchodedig eraill i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r gwaith rhagorol sy'n mynd rhagddo yng Nghymru. Credaf fod Blas Cymru yn glod i'n bwyd a'n diod anhygoel yng Nghymru, nid yn unig yn Nyffryn Clwyd, ond ledled Cymru. Yr adborth cynnar a gawsom yw bod nifer sylweddol o gontractau newydd wedi'u hennill yn Blas Cymru. Mae'n bleser gwirioneddol cael bod yn Weinidog â chyfrifoldeb am fwyd a diod a'i werthu i'r byd.