Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Rydym yn annog datrys anghydfodau yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, ac rwy'n falch fod y trafodaethau'n parhau rhwng Arriva Cymru ac undeb Unite. Mae swyddogion trafnidiaeth yn cadw mewn cysylltiad agos â'r trafodaethau, ac rwyf wedi cyfarfod ag undeb Unite.