Part of the debate – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23, a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yng nghynnig y gyllideb flynyddol. Fel y byddwch wedi gweld yn nogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyllideb o £62.942 miliwn i gyd, ac mae hynny'n cynnwys £41.175 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn, £17.552 miliwn i'w bennu gan y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol, £165,000 ar gyfer swyddfa'r comisiynydd safonau, a £4.05 miliwn ar gyfer llog ac eitemau nad ydynt yn arian parod.
Nawr, mae'r gyllideb yn gynnydd o 4.36 y cant ar y gyllideb eleni, ac eithrio costau etholiad wrth gwrs, sydd efallai'n swnio'n sylweddol, ond mae'n gwbl angenrheidiol i'r Comisiwn allu parhau i gefnogi Aelodau i'r safonau rhagorol rydym wedi dod i arfer â hwy, a'u disgwyl yn wir. Y dyfarniad cyflog gan y Comisiwn i staff y Comisiwn ar gyfer 2022-23 fydd 2.7 y cant, yn unol â'r hyn a gytunwyd fel mecanwaith dyfarniad cyflog yn seiliedig ar y cynnydd cyfartalog yn yr arolwg blynyddol o oriau ac enillion ar gyfer y tair blynedd diwethaf, gyda therfyn uwch ac is o 3 y cant ac 1 y cant yn y drefn honno.
Mae'r Comisiwn, wrth gwrs, yn bodoli er mwyn cefnogi'r Senedd a'i Haelodau, ac mae'r pwysau ar Aelodau yn parhau i fod yn sylweddol iawn. O ystyried ein nifer gymharol fach a'r materion cymhleth rydym yn mynd i'r afael â hwy ar hyn o bryd, yn fwyaf nodedig, diwygio ac effaith barhaus Brexit, mae angen cyllideb arnom sy'n darparu'r lefel gywir o adnoddau i gefnogi'r Aelodau drwy'r cyfnod hwn, a hyn oll, wrth gwrs, heb ystyried y ffaith ein bod yn dal i lywio ein ffordd drwy bandemig byd-eang.
Yn y cyd-destun hwn, rydym wedi ychwanegu at nifer ein staff mewn ymateb i'r pandemig a blaenraglen waith y Comisiwn, ac yn benodol, at ein timau pwyllgor, i sicrhau y ceir cymorth clercio digonol wrth inni archwilio'r materion cymhleth hyn yn fwy manwl. Mae'r ffordd rydym wedi newid i weithio hybrid yn rhywbeth y gallwn fod yn hynod falch ohono yn fy marn i wrth edrych yn ôl ar y 18 mis diwethaf. Mae'r byd yn lle gwahanol iawn o'i gymharu â dwy flynedd yn ôl, a chyda gweithio gartref yn dal i fod yn sefyllfa ddiofyn i lawer, gan fy nghynnwys i, mae buddion gweithio yn ein hardaloedd yn parhau i dyfu. I mi ac i Aelodau eraill sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd, er mwyn parhau i weithio ar y sail hon, mae angen buddsoddiad ychwanegol mewn cymorth TGCh. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym wedi buddsoddi yn ein staff TGCh i ddarparu cydnerthedd a chefnogaeth i'r model hybrid, a bydd angen inni fuddsoddi ymhellach er mwyn cefnogi hyn yn y tymor hwy.
Mae'r gyllideb hon yn dryloyw, wedi'i gosod yng nghyd-destun y sefyllfa gyllido ariannol hirdymor yng Nghymru, ac mae'n ystyriol o ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n drylwyr ar y gyllideb hon a'u hymrwymiad parhaus i sicrhau tegwch a thryloywder yr hyn sy'n ofynnol gan y Comisiwn, gan barhau i ofyn cwestiynau, sy'n ein cynorthwyo i wella perfformiad a sicrhau rhagoriaeth.
Gwnaeth y pwyllgor naw argymhelliad, ac rydym wedi eu trafod yn ein hymateb. Eu hargymhelliad cyntaf oedd bod y Senedd yn cefnogi'r gyllideb hon, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Diolch i holl aelodau'r Pwyllgor Cyllid. Roedd tri argymhelliad yn ymwneud â rheolaethau cyllidebol, yn benodol ynghylch cyfyngu a rheoli costau yn y flwyddyn gyllidebol i geisio rheoli effaith y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol heb fod angen cyllideb atodol, yn ogystal â gweithio heb ragdybiaeth o gynnydd yn y blynyddoedd i ddod, ac yn olaf, cyfathrebu'n rhagweithiol ag aelodau'r Pwyllgor Cyllid ynghylch costau ychwanegol a allai godi ar gyfer 2023-24, pan fydd blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer y chweched Senedd yn dechrau dod i'r amlwg.
Gofynnai dau o'r argymhellion i'r Comisiwn edrych ar ddefnydd o'r ystâd a gofynion mewn perthynas â gofod yn y dyfodol, gan gydnabod y ffaith bod ffyrdd newydd o weithio'n debygol o ddod yn ffyrdd arferol o weithio. Gofynnwyd i'r Comisiwn nodi lle gallai fod goblygiadau o ran adnoddau, beth y gallai'r goblygiadau hynny fod, yn ogystal â chael gwell dealltwriaeth o delerau'r les a'n rhwymedigaethau o ran ailosod yr holl ffenestri yn Nhŷ Hywel. Mae argymhelliad pellach yn gofyn inni barhau i fonitro effaith COVID ar ein cyllideb, o ran lle rydym wedi gwneud arbedion a lle gallem ddisgwyl parhau i wneud arbedion, ac ar yr ochr arall, meysydd lle mae wedi arwain at fwy o wariant. Argymhelliad arall yw ein bod yn nodi ac yn bwrw ymlaen ag atebion cyflym i gefnogi ein nodau o gyflawni strategaeth garbon niwtral. Ac yn olaf, gofynnwyd inni adrodd ar ein llwyddiant wrth ymgysylltu â'n carfanau anodd eu cyrraedd, yn enwedig y rheini mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is, ac wrth gwrs, rydym yn fwy na pharod i wneud hynny.
Rydym wedi derbyn yr argymhellion hyn ac fel bob amser, rydym yn agored i awgrymiadau ar sut i wella ein proses gyllidebu. Ac rydym yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan yr Aelodau. Yn y cyfamser, mae'n bleser gennyf gyflwyno'r gyllideb hon ar ran y Comisiwn a'i holl aelodau, ac ailadrodd ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw, gan sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i bobl Cymru.