7. Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.91 yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod: Bil Bwyd (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 3:55, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Nid yw fy Mil yn cynnig ateb syml a fydd yn datrys yr holl broblemau sy'n wynebu'r gymdeithas yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n darparu fframwaith cadarn a fydd o'r diwedd yn datrys llawer o'r problemau sydd wedi bod yn ein hwynebu yn rhy hir. Yn y pen draw, hanfod y Bil yw sicrhau defnydd o fwyd lleol, gan greu swyddi lleol, ysgogi economïau lleol, ynghyd â mynd i'r afael â materion llesiant ac iechyd mawr ar hyd a lled Cymru. Unwaith eto, credaf fod rhain yn bwyntiau y byddai pob gwleidydd yn y Siambr hon, boed yma neu'n rhithwir, yn eu cefnogi.

Felly, rwyf am esbonio ychydig mwy am fy Mil arfaethedig, a sut y datblygais y cynigion hyn. Mae materion sy'n ymwneud â bwyd yn cyffwrdd â sawl agwedd ar waith y Llywodraeth, o iechyd y cyhoedd i gymunedau, yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, yn ogystal â'r economi, yn amlwg. Mae'n ymgysylltu â gwahanol adrannau ar draws Llywodraeth Cymru, ac rydym wedi gweld nifer o gynlluniau a strategaethau gan Weinidogion yma yng Nghymru, megis y cynllun gweithredu ar gyfer bwyd a diod, a chynllun gweithredu COVID-19 Cymru ar gyfer bwyd a diod.

Ond fel rwyf wedi'i ddarganfod wrth drafod y cynigion hyn gyda rhanddeiliaid ar draws y gwahanol sectorau, yn aml nid yw'r cynlluniau hyn yn siarad â'i gilydd. Maent yn aml yn canolbwyntio gormod ar feysydd penodol, ac ar adegau, maent hyd yn oed yn gwrthdaro â'i gilydd yn yr hyn y maent yn ceisio'i gyflawni. Er fy mod yn credu bod llawer i'w groesawu, mae wedi bod yn glir o drafodaethau fod angen gwneud llawer mwy os ydym am wireddu potensial llawn y sector bwyd yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau sy'n wynebu ein cymunedau.

Ac mae'n bwysig nodi bod y cynnydd a wnaed ar rai o'r materion hyn mewn rhannau eraill o'r DU yn golygu bod perygl y bydd Cymru yn cael ei gadael ymhellach fyth ar ei hôl hi. Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi ei Good Food Nation Bill yn ddiweddar, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion yr Alban ac awdurdodau cyhoeddus perthnasol greu cynlluniau cenedl bwyd da, yn ogystal ag ystyried yr angen am gorff statudol. Disgwylir i Lywodraeth y DU lunio Papur Gwyn i ymateb i argymhellion adroddiad diweddar y strategaeth fwyd genedlaethol.

Mae fy nghynigion, felly, wedi'u llunio yn sgil llawer o drafodaethau gyda rhanddeiliaid ac arbenigwyr, yn ogystal ag Aelodau o'r Senedd o bob plaid. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu hamser a'u cymorth hyd yma. Rwyf hefyd yn falch iawn o fod wedi cael cefnogaeth gyffredinol gan Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr mewn perthynas ag egwyddorion ehangach y Bil. Mae'r Gynghrair Gweithwyr Tir hefyd yn credu bod angen gweledigaeth drosfwaol ar gyfer system fwyd iach, gref a chynaliadwy yng Nghymru.

Felly, i grynhoi, byddai fy Mil yn gwneud nifer o bethau. Mae sefydlu comisiwn bwyd i Gymru yn rhan allweddol o'r ddeddfwriaeth arfaethedig. Byddai'r comisiwn yn ailosod llywodraethiant y system fwyd yng Nghymru, a byddai'n cyd-greu ac yn goruchwylio'r gwaith o gyflawni strategaeth fwyd i Gymru gyda Gweinidogion Cymru a rhanddeiliaid eraill. Nid yw wedi'i gynllunio i danseilio'r Gweinidog na'r Llywodraeth, ond i'w cefnogi i gyflawni eu nodau.

Bydd cyfansoddiad y comisiwn yn cael ei ddatblygu ymhellach mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wrth i'r Bil fynd rhagddo. Rwy'n croesawu mewnbwn gan Aelodau ynglŷn â sut y gallai hynny edrych. Bydd y Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gydgynhyrchu strategaeth fwyd drosfwaol i Gymru gyda rhanddeiliaid eraill. Bydd hyn yn gweithredu fel fframwaith trosfwaol strategol sy'n integreiddio polisïau'n ymwneud â'r system fwyd ar draws nifer o adrannau Llywodraeth Cymru.

Er bod Llywodraeth Cymru wrthi'n diweddaru ei chynllun gweithredu ar gyfer bwyd, mae dogfen ymgynghori'r Llywodraeth yn nodi nad yw'n gynnig ar gyfer newid i system fwyd gyfannol. Ac eto, dyna'n union sydd ei angen arnom yng Nghymru, a dyna fydd y strategaeth fwyd arfaethedig yn anelu i'w wneud. Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill, megis byrddau iechyd lleol, ddatblygu cynlluniau bwyd cymunedol. Bydd hyn yn cryfhau caffael cyhoeddus ac yn creu gwell seilwaith i gysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr bwyd.

Byddai'r rhain yn adeiladu ar yr arferion da sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru, megis cynllun gweithredu Cyngor Sir Fynwy ar ddatblygu bwyd, a byddai'n annog cymunedau lleol eraill i archwilio sut y gallant gryfhau'r cysylltiad rhwng cynhyrchwyr a defnyddwyr yn eu hardal.

Ceir rhai polisïau ychwanegol hefyd, megis y gofyniad i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol ar gynhyrchiant bwyd yng Nghymru, fel y gallwn ddadansoddi canlyniad strategaeth fwyd Cymru yn glir, yn ogystal â chynlluniau bwyd lleol. Byddai'n caniatáu i lunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb i wneud asesiad o ba mor gynaliadwy a chadarn yw cynhyrchiant bwyd yng Nghymru.

Gallai'r Bil ei gwneud yn ofynnol i bob archfarchnad a manwerthwr arall roi bwyd nad oes mo'i eisiau neu heb ei werthu sy'n addas i'w fwyta i elusennau a banciau bwyd i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae hyn yn debyg i fesur a gyflwynwyd yn Ffrainc yn 2016. Byddai'r polisi'n helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei rhwymedigaethau presennol, megis y targed i haneru gwastraff bwyd y gellir ei osgoi erbyn 2025 a'i leihau 60 y cant erbyn 2030. Gwn fod rhai archfarchnadoedd eisoes yn gwneud gwaith da, ond nid yw'n ddigon.

Yn olaf, byddai'r Bil yn archwilio ffyrdd o gryfhau gofynion labelu bwyd. Byddai hyn yn canolbwyntio ar sicrhau bod cynhyrchwyr, gweithgynhyrchwyr ac yn bwysig, ochr ychwanegol y sector lletygarwch, yn cryfhau—byddai eu rheolau labelu bwyd yn cael eu cryfhau i sicrhau bod bwyd a gynhyrchir yng Nghymru wedi'i nodi'n glir i ddangos mai dyna ydyw.

Fodd bynnag, Ddirprwy Lywydd, hoffwn bwysleisio mai cynigion yn unig yw'r rhain. Os caf ganiatâd i gyflwyno Bil yn ffurfiol, bwriadaf gydweithio'n agos ag ystod eang o randdeiliaid, yn ogystal ag Aelodau a Gweinidogion o bob rhan o'r Siambr, i sicrhau bod eu barn a'u hamcanion wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth, oherwydd drwy gydweithio fel un Senedd y gallwn sicrhau Cymru fwy teg a chyfartal.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i apelio ar bob Aelod o'r Senedd fel unigolion, nid pleidiau gwleidyddol, nid chwipiaid y pleidiau: mae gennym gyfrifoldeb moesol i weithredu heddiw. Mae'n hawdd gorbwysleisio effaith deddfwriaeth. Fel y cydnabûm yn gynharach, un elfen mewn peiriant llawer ehangach fyddai fy nghynigion. Mae yna agweddau eraill ar y system fwyd sydd y tu hwnt i'n pwerau, a chredaf fod angen inni weld Llywodraethau eraill yn gwneud mwy i fynd i'r afael â rhai o'r problemau, ond byddai'r Bil hwn yn rhoi'r llwyfan sydd ei angen arnom yma yng Nghymru i ddechrau gweithredu'r newidiadau y mae angen inni eu gweld.

Clywn y gair 'blaengar' yn cael ei daflu o gwmpas yn aml yn y Siambr hon. Wel, gadewch inni weithredu mewn modd blaengar. Atebion Cymreig i broblemau Cymreig, wedi'u creu ar gyfer pobl Cymru. I ddyfynnu'r Athro Kevin Morgan a Simon Wright yn eu herthygl ddiweddar ar fy Mil:

'Mae synnwyr cyffredin, yn ogystal â thoreth o dystiolaeth ymchwil, yn dweud wrthym fod yn rhaid inni weithredu. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei chael hi'n anodd deall ein methiant i wneud hynny.'

Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed barn Aelodau o bob rhan o'r Siambr. Diolch.