Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch. Diolch i Peter Fox am gyflwyno'i Fil arfaethedig heddiw, a chroesawaf y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Cyfarfûm â Peter i drafod ei gynigion a gwnaeth ei angerdd dros yr agenda hon argraff arnaf, ac mae newydd ddangos hynny eto. Rwy'n gobeithio y gall y ddadl hon fod yn rhan o sgwrs barhaus am y ffyrdd y gallwn gydweithio i wireddu'r dyheadau sydd ganddo ac rwyf fi, a llawer ar draws y Siambr hon, yn eu rhannu.
Cytunaf yn gryf â'r teimlad sy'n sail i'r Bil arfaethedig. Mae manteision lles enfawr i'w cael o ailfeddwl ein hagwedd tuag at fwyd a'r rôl y mae'n ei chwarae yn ein cymdeithas. Credaf fod llawer y gallwn ei wneud drwy adeiladu ar y consensws sydd gennym ar draws y Senedd, a thrwy gefnogi creadigrwydd ac ymrwymiad pobl ledled Cymru. Fodd bynnag, rwyf am annog yr Aelodau i ystyried y ffyrdd y gellir cyflawni dyheadau'r Bil yn gyflymach ac yn fwy effeithiol na thrwy'r darpariaethau penodol a gynigir, ac i weithio gyda ni i'w gwneud hi'n bosibl cyflawni cyfres o bethau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ymarferol ar lawr gwlad.
Byddai'r comisiwn bwyd cenedlaethol a'r haenau o strategaethau blynyddol gan y Llywodraeth a gynigir gan y Bil yn creu perygl o lesteirio yn hytrach na chefnogi entrepreneuriaid lleol, trefnwyr cymunedol a gweision cyhoeddus. Credaf y byddai'n gwneud cyfraith ddiangen ar gyfer pynciau lle gellir a lle mae camau'n cael eu cymryd eisoes. Ceir cyfoeth o fentrau a chymunedau bywiog o ddiddordeb yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar fwyd, a chredaf fod y ffyrdd creadigol yr ymatebodd awdurdodau lleol Cymru a'r sector gwirfoddol i ddarparu bwyd i bobl agored i niwed yn ystod y pandemig COVID-19 yn un enghraifft, yn ogystal â'r cannoedd o brosiectau tyfu bwyd cymunedol a geisiodd gymorth drwy'r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ehangu eu gwaith fel ffordd o helpu pobl drwy'r effaith ofnadwy y mae'r feirws wedi ei chael, ac yn parhau i'w chael, ar ein cymunedau.
Mae'r rhwydwaith clwstwr o fusnesau bwyd yng Nghymru yn enghraifft wych arall o'r angerdd a'r ysbryd cydweithredol sy'n bodoli yn y diwydiant bwyd yma yng Nghymru, yn ogystal â chryfder busnesau Cymreig gafodd ei arddangos yng nghynhadledd Blas Cymru a gynhaliwyd y mis diwethaf, lle llwyddwyd i ddenu buddsoddwyr o bob cwr o'r byd. Drwy gronfa her yr economi sylfaenol, gwnaethom gefnogi prosiect, dan arweiniad bwrdd gwasanaethau cyhoeddus sir Gaerfyrddin, i ddatblygu cyfleoedd i'r sector cyhoeddus gaffael bwyd a gynhyrchir ac a gyflenwir yn lleol, gan gynorthwyo busnesau lleol i dyfu, prosiect a allai fod yn arweiniad defnyddiol yn fy marn i, lle gallwn gynorthwyo eraill i ddilyn.
Gan ddysgu o'r ffyrdd llwyddiannus y mae ein cymorth i fentrau sy'n seiliedig ar fwyd wedi'i ddarparu, a gweithio gyda busnesau a chymunedau yn ogystal â chyrff cyhoeddus, credaf fod arnom angen dull o weithredu o'r gwaelod i fyny, yn hytrach na dull o'r brig i lawr. Gall hyn adeiladu ar waith sydd eisoes wedi'i gyflawni ar raddfa fach i ganolig yng Nghymru, ac mae angen inni dyfu ac ymestyn hynny yn awr. Dyna lle credaf y dylai ein ffocws fod—ar ddatrys problemau yn ymarferol a chefnogi gweithredu lleol ledled y wlad, yn hytrach na chreu cyfres o ddyletswyddau cyfreithiol newydd a threfniadau biwrocrataidd.