8. Dadl Plaid Cymru: Cefnogi gwledydd incwm isel i reoli'r pandemig COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:46, 17 Tachwedd 2021

Diolch, Dirprwy Lywydd. Braint o'r mwyaf yw cael cyflwyno'r ddadl heddiw ar bwnc dwi'n gwybod y mae nifer o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon hefyd yn teimlo'n angerddol amdano. Dim ond wythnos diwethaf, fe glywsom gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am yr amryw o brosiectau pwysig drwy'r rhaglen Cymru ac Affrica, a’i chefnogaeth hi i ymgyrch Brechlyn y Bobl. Rwyf yn gobeithio'n fawr felly, yn sgil y ddadl heddiw, y gallwn ni i gyd gyd-weithio ar draws y Siambr hon i sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i ddod â'r pandemig hwn i ben, neu o leiaf dan reolaeth, a gwarchod cymunedau ledled y byd.