Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Rhaid imi ddweud fy mod yn bersonol yn ei chael hi'n eironig i fod yn agor a chau'r ddadl benodol hon ar ddiwrnod pan wyf fi fy hun wedi cael prawf positif am COVID, a phan wyf yn teimlo'n hynod ddiolchgar fy mod wedi cael dau ddos o'r brechlyn am ddim, ac felly wedi cael mwy o amddiffyniad i ymladd y feirws. Mae'n fy ngwneud yn ymwybodol iawn y dylid rhoi'r un cyfle i bawb.
Os caf droi at y gwelliannau i ddechrau, ac esbonio efallai pam na fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd. Mewn gwirionedd, fe gyfeiriaf at fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, a'r pwynt a wnaeth ynghylch ateb i gais rhyddid gwybodaeth yn ddiweddar a awgrymai fod dros 600,000 o frechlynnau wedi'u dinistrio ym mis Awst 2021 yn y DU. Gadewch i'r ffaith honno suddo i mewn. Clywsom Gareth Davies yn ei gyfraniad, lle cafwyd cryn dipyn o sarhad, byddwn yn dweud, o ran ein bod yn simplistig, ac yn y blaen, ond rwy'n ei chael yn eithaf rhyfeddol eich bod yn llongyfarch Llywodraeth y DU am bentyrru brechlynnau, sydd wedyn wedi arwain at gyflenwad dros ben, a dinistrio brechlynnau. Rwy'n credu bod angen inni gwestiynu dull Llywodraeth y DU o weithredu yn hynny o beth.
Yn yr un modd gyda Russell George, rwy'n falch eich bod yn croesawu rhannau helaeth o'n cynnig heddiw, ond credaf fod angen inni ystyried cyfraniad y DU yma, a sut y mae'n cyd-fynd â'r ffaith mai Llywodraeth y DU sydd wedi bod yn gwneud y cyfraniad lleiaf: fel y soniais, pentyrru brechlynnau yma yn y DU, a'r syniad ein bod yn rhoi ein hunain yn gyntaf a pheidio â meddwl am gyfrifoldeb byd-eang. Pan edrychwn wedyn ar yr effaith fyd-eang, mae'r uned Economist Intelligence yn amcangyfrif y bydd gwledydd sydd â llai na 60 y cant o'u poblogaeth wedi'u brechu erbyn canol 2022 yn dioddef colledion cynnyrch domestig gros o $3.2 triliwn rhwng 2022 a 2025, a bydd niwed economaidd o'r fath yn bwrw'r gwledydd hyn i ddyled hirdymor, yn cynyddu tlodi ac yn lleihau gwariant ar systemau iechyd, gan waethygu'r pandemig hwn ymhellach a chynyddu anghydraddoldebau.
Roeddwn yn falch iawn o glywed yr holl sylwadau cadarnhaol a chefnogol gan Jenny Rathbone, Jane Dodds, Rhun, John Griffiths a Delyth Jewell, ac yn enwedig gan y Gweinidog, Eluned Morgan. Diolch, ac rwyf am ategu eich diolch i weithwyr y GIG hefyd. Rwy'n falch o gael eich cefnogaeth ac roedd yn wych clywed eich bod wedi bod yn dadlau dros gyfraniadau pellach i COVAX. Pan wyddom fod gwledydd COVAX yn dal i eistedd ar hyd at 210 miliwn o ddosau dros ben, credaf ei bod yn hanfodol fod pob gwlad yn chwarae ei rhan i sicrhau ei fod yn ymateb byd-eang, a'n bod i gyd yn wledydd sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Rhaid imi ddweud, wrth wrando ar y Gweinidog, cefais fy argyhoeddi yn fwy nag erioed pam fod angen i Gymru fod yn wlad annibynnol, a sut y cawn ein dal yn ôl drwy fod yn rhan o'r DU, ond dadl ar gyfer diwrnod arall yw honno.
I gloi, hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi dweud y byddant yn cefnogi heddiw, a byddwn yn gweithio gyda phawb i sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan. Pan feddyliwch fod y DU wedi brechu dros 65 y cant o'i phoblogaeth yn llawn, ond mai 1.9 y cant yn unig o bobl mewn gwledydd incwm isel a chanolig sydd wedi cael un dos, gallwn ddeall pam y mae'r pandemig byd-eang hwn yn parhau. Nid oes un mesur ar ei ben ei hun yn mynd i allu ein helpu allan o'r pandemig, ond drwy ddarparu mwy o gyllid a chymorth rhyngwladol, cyflenwadau meddygol a chefnogi ymgyrch Brechlyn y Bobl, gallwn sicrhau mai dyma'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r pandemig, cefnogi'r economi, diogelu dinasyddion a'u buddiannau tra'n achub bywydau ym mhob rhan o'r byd. Felly, gobeithio y cawn eich cefnogaeth heddiw i'n dadl a'n cynnig, ond nid i'r gwelliant. Diolch.