Cwestiynau i Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

QNR – Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative

Sut y bydd y cynigion yng nghynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru yn gwella lles anifeiliaid yng Nghymru?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Ddim wedi ei gyfieithu)

The proposals in our Animal Welfare Plan will improve animal welfare in Wales through their focus on high standards, the adoption and sharing of best practice, engagement with key stakeholders, the development of effective, supportive and sustainable mechanisms for enforcement, and through their dynamic promotion of responsible ownership.

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

Rydw i’n ymwybodol iawn o’r effaith y gall tân gwyllt ei chael ar fywyd gwyllt, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm. Gan nad oes ymrwymiad clir gan Lywodraeth y DU i dynhau’r rheoliadau yng Nghymru a Lloegr rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU ystyried posibilrwydd trosglwyddo’r pwerau hyn i Weinidogion Cymru.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad y sector amaethyddol yng Nghanol De Cymru?

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

Yn ystod 2021 mae £16.5 miliwn wedi’i ddarparu i ffermwyr drwy ein cynlluniau cymorth, gan gynnwys y rhai yng Nghanol De Cymru. Mae’r cymorth hwn yn galluogi ffermwyr i wella eu perfformiad amgylcheddol, technegol ac ariannol. Mae cyfnodau ymgeisio wedi bod ar gael i ffermwyr ar draws Cymru.