Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Diolch, Llywydd. Fe wnaethon ni ystyried memoranda Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil Lluoedd Arfog ym mis Medi. Wrth wneud hynny, nodwyd bod ein pwyllgor blaenorol yn y bumed Senedd wedi bod yn craffu ar y Bil. Daeth ein hadroddiad i ddau gasgliad a gwnaeth un argymhelliad, ac rwy’n diolch i’r Dirprwy Weinidog am ymateb i'n hadroddiad cyn y ddadl y prynhawn yma.