11. Dadl: Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 6:25, 23 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Tribiwnlysoedd Cymru wedi parhau i ymateb i'r heriau sylweddol iawn a ddaw yn sgil pandemig y coronafeirws. Rhoddodd y llywydd dystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 1 Tachwedd a dywedodd fod Tribiwnlysoedd Cymru wedi ymdrin â phob achos a gyflwynwyd yn 2020-21. Ac mae'n glod i'r llywydd, arweinwyr barnwrol, aelodau'r tribiwnlys ac uned Tribiwnlysoedd Cymru bod Tribiwnlysoedd Cymru wedi gallu gweithredu o bell dros y cyfnod a gwneud hynny'n llwyddiannus yn wyneb amgylchiadau anodd parhaus. Mae'r perfformiad hwn yn arbennig o nodedig pan fydd rhywun yn edrych ar yr oedi yn y system gyfiawnder a welwyd ledled Cymru a Lloegr yn yr un cyfnod. Ac mae'n bwysig o ran mynediad at gyfiawnder bod Tribiwnlysoedd Cymru wedi parhau i weithredu'n effeithiol, gan y gallai'r canlyniadau i'r rhai a fyddai'n ceisio cymorth ganddyn nhw, yn enwedig defnyddwyr tribiwnlys yr adolygiad iechyd meddwl, fod wedi bod yn ddifrifol iawn oni bai am hynny.

Wrth gwrs, bu Syr Wyn hefyd yn gwasanaethu ar y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a chyfrannodd at ei gyfres gynhwysfawr o argymhellion ar ddyfodol cyfiawnder yng Nghymru. Yn fwyaf diweddar, yn llywydd Tribiwnlysoedd Cymru, mae wedi gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith i lywio ei adolygiad o'r gyfraith sy'n llywodraethu gweithrediad y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru. Ac mae un o'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, ac un yr wyf i'n rhagweld ei fod yn debygol y bydd Comisiwn y Gyfraith yn ei wneud, yn ymwneud ag annibyniaeth strwythurol uned Tribiwnlysoedd Cymru. Nid yn unig y mae hwn yn fater sydd wedi bod yn thema gyson ym mhob un o adroddiadau blynyddol y llywydd, mae'n un a ailadroddodd y llywydd yn ei ymddangosiad diweddar gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. I ddefnyddio geiriau'r llywydd o'i ymddangosiad gerbron y pwyllgor,

'dylai uned Tribiwnlysoedd Cymru fod yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru, a chael ei gweld felly', er mwyn hyrwyddo egwyddor sylfaenol annibyniaeth y farnwriaeth. Nid yw hon yn sefyllfa y byddwn i'n ei gwrthwynebu.

Ac wrth i'n system o dribiwnlysoedd Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017 ddatblygu, felly hefyd swyddogaeth uned Tribiwnlysoedd Cymru o ran eu gweinyddu. Mae'r uned yn rhan o Lywodraeth Cymru ac, fel Llywodraeth, rydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu gwaith barnwriaeth Tribiwnlysoedd Cymru. Rydym yn cydnabod eu huniondeb, eu hymrwymiad i wasanaethau cyhoeddus a'r rhan bwysig y maen nhw’n ei chwarae wrth arfer cyfrifoldebau cyhoeddus yng Nghymru. Ac nid oes gen i unrhyw amheuaeth nad yw'r Llywodraeth hon a'r Senedd hon yn cydnabod ac yn deall pwysigrwydd yr egwyddor o annibyniaeth farnwrol. Rwy'n ffyddiog wrth ddweud bod yr egwyddor hon yn llywio'r ffordd y mae sefydliadau barnwrol yn cael eu cefnogi ac y byddan nhw'n parhau i gael eu cefnogi yng Nghymru.

Nid oes gen i unrhyw amheuaeth ychwaith na fydd argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn nodi'r diwygiadau strwythurol sydd eu hangen i foderneiddio ein system dribiwnlysoedd. Bydd ailfodelu'r gwaith o weinyddu cyfiawnder yn rhan angenrheidiol o'n taith tuag at ddatblygu seilwaith cyfiawnder i Gymru sy'n gallu rheoli ymwahaniad fwy byth y gyfraith o Loegr.

Ac yn olaf, hoffwn i droi at flaenoriaethau'r llywydd yn y dyfodol, a dau yn benodol: yn gyntaf, gwerthuso sut y dylai Tribiwnlysoedd Cymru weithredu ar ôl y pandemig o ran y cydbwysedd rhwng gwrandawiadau o bell ac wyneb yn wyneb er mwyn sicrhau mynediad gorau at gyfiawnder; ac yn ail, ymateb i'r argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith a'u cynorthwyo i'w gweithredu. Gallwn ni i gyd fod yn falch iawn y bydd Syr Wyn yn dod â'i brofiad a'i arweiniad i fwrw ymlaen â'r materion pwysig hyn. Dirprwy Lywydd, wrth gloi, gobeithio y bydd yr Aelodau yn ymuno â mi i ddiolch i lywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei adroddiad blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Diolch, Dirprwy Lywydd.