Part of the debate – Senedd Cymru am 6:55 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Rydym bellach wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio ac felly rydym yn symud ymlaen nawr at ein pleidleisiau. Mae'r bleidlais gyntaf ar eitem 7 ar yr agenda heddiw: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agorwch y bleidlais. O blaid, 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.