Seilwaith Trafnidiaeth ym Mlaenau Gwent

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:15, 23 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Ers cael fy ethol, rwyf i wedi cynnal llawer o gymorthfeydd stryd, a phatrwm y byddwch chi'n ei weld yn aml yn y cymorthfeydd hyn, pan fydd fy nhîm i allan ym Mlaenau Gwent, yw cludiant i ysbyty'r Faenor. Rwy'n gwybod y gall gymryd hyd at 45 munud i deithio o'r Faenor i Dredegar, er enghraifft, gan fy mod i wedi ei wneud fy hun, ond os ydych chi'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gall fod yn daith llawer anoddach sy'n cymryd llawer mwy o amser. Yn dibynnu ar ble'r ydych chi'n byw ym Mlaenau Gwent a pha adeg o'r dydd yw hi, gall gymryd hyd at bedwar gwahanol fws a mwy na dwy awr dim ond i fynd un ffordd. Rwy'n gwybod mewn rhannau eraill o Ddwyrain De Cymru y gall fod hyd yn oed yn waeth na hyn. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno nad yw cysylltedd i ysbyty'r Faenor yr hyn y dylai fod, ac os felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i wneud yr ysbyty hwn yn fwy hygyrch i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu?