Technoleg Protein Amgen

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 1:40, 23 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

—ar gyrraedd y tir uwch, y tir cyffredin uwch, ac rwy'n gobeithio y bydd pleidiau eraill yn dilyn hynny, ond rwy'n siŵr y bydd pobl eraill yn ceisio ei dynnu i lawr yn ddiweddarach yn y sesiwn hon.

Mae'r ymrwymiad i geisio sicrhau sero net erbyn 2035 yn rhan mor bwysig o'r cytundeb cydweithredu rhwng ein pleidiau, a bydd technoleg yn chwarae rhan allweddol wrth wneud hynny. Fe wnaethoch chi ddweud yn eich datganiad ysgrifenedig heddiw y bydd angen syniadau, ymchwil ac arloesi newydd i gyrraedd sero net. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe wnaethom ni arwain y ffordd gyda'r chwyldro diwydiannol, ac, yn hytrach na dweud y drefn wrth weision sifil sy'n gweithio'n galed am beidio â meddwl am fochyn cartŵn, sut gallwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i gyrraedd sero net erbyn 2035 a gwneud yn siŵr, drwy ddefnyddio'r dechnoleg honno, nad yw yn nwylo ychydig o filiwnyddion cyfoethog yn unig y tro hwn, ond yn cael ei rhannu rhwng pobl Cymru? Diolch yn fawr.