Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Wel, rwy'n credu bod y canllawiau wedi'u darparu gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn glir iawn. Fel y dywedwch chi, mae gennym ni dargedau cartrefi fforddiadwy, targedau cartrefi cymdeithasol, ac mae'n bwysig iawn bod yr wybodaeth gynllunio a'r nodiadau cyngor technegol yno i'w cynorthwyo. Felly, nid wyf i'n credu mewn gwirionedd bod angen cael dadl arall yn amser Llywodraeth Cymru.