Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch am y datganiad. Mae'r sefyllfa yn dal yn amlwg yn ddifrifol, er fy mod i'n falch o weld y ffigurau yn mynd i lawr rhywfaint, o ran niferoedd, ac o ran y gyfradd positifrwydd hefyd. Ond y prynhawn yma, dwi'n meddwl yn benodol am Ffion Parry, merch 10 oed o Amlwch, yn fy etholaeth i, sydd wedi bod yn sâl iawn yn ysbyty Alder Hey, ar ôl i'w chorff hi ymateb yn wael iawn i'r feirws yma. Dwi'n dymuno'n dda iddi hi a'i theulu. A dyna pam rydym ni yn cymryd y feirws yma o ddifrif o hyd, a dyna pam bod angen i bob un ohonom ni, ym mhob plaid yn fan hyn, fod yn ddifrifol yn ein hymateb iddo fo o hyd.
Ydw, dwi'n deall rhwystredigaeth pobl ein bod ni yn dal yn wynebu rhai mesurau sydd yn cael impact ar ein bywydau bob dydd ni. Ond dwi'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran pob gwleidydd, pawb sy'n gwneud deddfau a rheoliadau, ein bod ni'n edrych ymlaen at gael gwared ar y deddfau a'r rheoliadau hynny mor fuan â phosib, ond dydyn ni ddim ar y pwynt hwnnw eto.
Ambell fater i'w codi gen i rŵan. Y cyntaf: diffyg cysondeb efo darparu'r booster. Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ddweud yn gynharach wrthyf y bydd swyddog yn edrych ar y sefyllfa yn fy etholaeth i—Caergybi ac Amlwch—lle mae yna niferoedd llawer is nag mewn ardaloedd cyfagos wedi cael y booster. Dwi eisiau gwybod beth sy'n digwydd yn fanno. Ond mi fyddwn i'n gwerthfawrogi sicrwydd am y camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau cysondeb yn lefel y booster sy'n cael ei rhoi ym mhob rhan o Gymru.
Yn ail: brechu ydy'r amddiffyniad gorau, rydyn ni'n gwybod, ond dwi'n dal yn bryderus bod yna ddiffyg gweithredu ar rai o'r pethau mwyaf sylfaenol eraill yna sy'n ein cadw ni yn ddiogel. A, phan dwi'n gweld lluniau neu'n clywed adroddiadau am drenau gorlawn a phobl ddim yn gwisgo masgiau o gwmpas gemau rygbi'r penwythnos, mae'n amlwg bod yna dal ddiffyg enforcement ac ati yn mynd ymlaen. Ac mi fyddwn i'n gwerthfawrogi clywed pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i drio mynd i'r afael â rheini, ac mewn ysgolion hefyd. Hynny ydy, mater dwi wedi codi tro ar ôl tro: beth sy'n mynd i fod yn cael ei wneud, wrth inni fynd mewn yn ddyfnach i'r gaeaf, i gryfhau polisïau awyru ac agor ffenestri a ballu mewn ysgolion i gadw plant ac athrawon a staff yn ddiogel?
Os caf i droi at basys, rydyn ni wedi trafod, dwi'n meddwl, y trafferthion mae pobl wedi eu cael—llawer o bobl—i gael trwodd i'r rhif ffôn canolog i ofyn am bàs papur. Dwi'n gwerthfawrogi'r datganiad ysgrifenedig a gafodd ei roi mewn llythyr gan y Gweinidog y bore yma, yn egluro y bydd yna ragor o gapasiti yn cael ei greu. Dwi'n edrych ymlaen at glywed bod hynny'n gweithio, oherwydd os ydy pàs COVID yn rhywbeth synhwyrol, mewn egwyddor, mae'n rhaid iddo fo weithio yn ymarferol hefyd.
Ond un pwynt yn benodol iawn: mae yna bryderon gan bobl sy'n cefnogi'r egwyddor am sut mae o'n gweithredu yn ymarferol. Dwi wedi sôn wrth y Gweinidog yn barod am un sinema, lle'r oedd yna rwystredigaeth fawr am orfod troi pobl i ffwrdd—nain a thaid yno efo’u gwyrion yn methu dod i mewn, oherwydd eu bod nhw wedi methu cael y pàs ar bapur. Roedd ganddyn nhw eu prawf o frechu ac eisiau gallu defnyddio hwnnw i ddod i mewn. Doedd dim posib caniatáu hynny. Gofyn oedd y sinema, tybed a oedd yna fodd arall i allu defnyddio prawf o fod wedi cael brechiad ynghyd â phrawf ID, er enghraifft? Dwi'n gwybod, wrth gwrs, byddai rhywun yn gallu cael prawf llif unffordd, a byddai hynny'n ffordd fyddai'n osgoi gorfod aros am y pàs COVID. Ond, mae'n amlwg bod yna ddiffyg dealltwriaeth o hyd; mae'n amlwg bod angen help pellach ar nifer o sefydliadau er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gallu cadw pethau'n dynn, fel y maen nhw'n dymuno ei wneud. Felly, gaf i ofyn: beth ydy'r cymorth ychwanegol yna mae'r Gweinidog a'r Llywodraeth yn gallu ei gynnig i'r sinema yna ac i sefydliadau eraill ar draws Cymru, sydd yn wirioneddol eisiau gallu cefnogi hwn a chydweithio efo fo, ond jest yn cael ychydig bach o drafferth weithiau?