Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Rwy'n dod at fy nghwestiwn olaf, Dirprwy Lywydd. O ran amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys a llawer yn aros hyd at 36 awr, a fyddech chi'n rhoi manylion i mi, os gwelwch chi'n dda, ynglŷn â'ch cynllun chi i gefnogi staff rhagorol ein GIG ni o ran byrhau'r amseroedd aros hynny, a'r gwelyau ychwanegol sydd eu hangen i leihau'r gwaith sydd wedi pentyrru fel y gwelsom ni i'r fath raddau, o ran ambiwlansys yn aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai?