5. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 23 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:02, 23 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae gan y Llywodraeth hon record gref a balch o ran adeiladu tai fforddiadwy. Mae ein rhaglen lywodraethu yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i hyn gyda'n targed uchelgeisiol o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel i'w rhentu y tymor hwn. Ond, i rai pobl sy'n byw mewn rhai rhannau o Gymru, mae cartref fforddiadwy y tu hwnt i'w cyrraedd oherwydd cyfuniad o brisiau tai cynyddol a nifer anghymesur o ail-gartrefi ac eiddo gwyliau tymor byr.

Rydym eisiau i bobl ifanc gael gobaith realistig o brynu neu rentu tai fforddiadwy yn y lleoedd y maen nhw wedi tyfu i fyny, fel y gallant fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol. Gall niferoedd uchel o ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn un ardal fygwth y Gymraeg yn ei chadarnleoedd ac effeithio ar gynaliadwyedd rhai ardaloedd gwledig. Rydym yn genedl groesawgar ac mae twristiaeth yn rhan bwysig o'n heconomi, gan ddod â swyddi ac incwm i sawl rhan o Gymru, ond nid ydym chwaith am gael pentrefi anghyfannedd mewn mannau gwyliau tymhorol—mannau lle nad oes neb gartref yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae'r rhain yn faterion cymhleth ac nid oes atebion cyflym. Efallai na fydd yr hyn a allai fod yn iawn i un gymuned yn gweithio i un arall. Mae angen i ni hefyd osgoi canlyniadau anfwriadol. Yn sicr, mae angen i ni gael cefnogaeth y cymunedau a'r bobl sy'n byw yno os ydym am ddod o hyd i ymatebion effeithiol a'u rhoi ar waith. Ac, mewn cyd-destun lle mae sylwebwyr yn cyfeirio at ddiffyg tystiolaeth gadarn am yr hyn sy'n gweithio, rhaid i ni greu ein ffordd Gymreig ein hunain, gan ddatblygu ein tystiolaeth ein hunain a'n hatebion ein hunain. Credaf ein bod i gyd yn cydnabod nad oes un ateb syml yma, a bydd angen i ni gyflwyno ystod o gamau gweithredu.

Ym mis Gorffennaf, nodais ddull gweithredu tair elfen y Llywodraeth: mynd i'r afael â materion fforddiadwyedd; defnyddio ein fframwaith rheoleiddio i reoli ail gartrefi ychwanegol ac eiddo a osodir ar gyfer gwyliau tymor byr yn well; a defnyddio trethiant cenedlaethol a lleol i sicrhau bod perchnogion ail gartrefi yn gwneud cyfraniad tecach.

Mae ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanarlwyo newydd gau. Ymatebodd bron i 1,000 o bobl i'r ymgynghoriad, sy'n dangos cryfder y teimlad a'r amrywiaeth barn. Rydym yn gweithio drwy'r rhain a byddwn yn ymateb gyda'r camau nesaf i sicrhau bod cyfraniad ariannol teg yn cael ei wneud, sy'n adlewyrchu cyfiawnder cymdeithasol.

Yn ei adroddiad rhagorol, 'Ail gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru', argymhellodd Dr Simon Brooks ein bod yn treialu newidiadau i gyfraith cynllunio fel ffordd o fynd i'r afael â niferoedd gormodol o ail gartrefi mewn cymunedau lleol penodol. Dros yr haf, rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd, a hoffwn nodi fy niolch i'r cyngor am y ffordd adeiladol a chadarnhaol maen nhw wedi ymgysylltu â ni. Gan ddechrau ym mis Ionawr, byddwn yn cynnal cynllun treialu fesul cam i brofi nifer o ymyriadau yn Nwyfor, yng Ngwynedd. Dyma'r tro cyntaf y byddwn yn ymyrryd yn y farchnad i gefnogi pobl leol i fyw yn eu cymunedau lleol fel hyn. Mae Dwyfor yn un o'n cadarnleoedd Cymraeg. Mae'n ardal lle mae ail gartrefi yn amrywio o tua un o bob pump i bron hanner y stoc sydd ar gael.

Bydd cam cyntaf y cynllun treialu yn cynnwys ystod o gymorth ymarferol i helpu pobl i gael gafael ar dai fforddiadwy, a bydd yn cysylltu â'n hymyriadau presennol a newydd mewn ffordd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar gamau rhagarweiniol, fel y gallwn ddechrau cyflawni gyda'n partneriaid cyn gynted â phosibl. Byddaf yn dweud mwy am y rhain ar ôl i'r Gweinidog cyllid gyhoeddi'r gyllideb ddrafft y mis nesaf, ond rydym yn awyddus i edrych ar gynlluniau rhannu ecwiti, atebion rhentu a'r hyn y gallwn ei wneud gyda chartrefi gwag.

Yng ngham dau, byddwn yn edrych ar y system gynllunio ei hun. Gwyddom fod y system gynllunio yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi ein hymdrechion i reoli ail gartrefi ychwanegol a llety gwyliau tymor byr. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod materion yn ymwneud ag ail gartrefi fel arfer yn lleol yn hytrach na ledled y wlad. Fodd bynnag, mae cyfraith cynllunio yn berthnasol ar draws Cymru gyfan. Felly, heddiw, rwyf yn lansio ymgynghoriad ar newidiadau a fyddai'n galluogi awdurdodau cynllunio lleol i newid yr angen am ganiatâd cynllunio i newid o gartref cynradd i gartref eilaidd neu lety gwyliau tymor byr.

Rydym yn cynnig newidiadau i'r Gorchymyn dosbarthiadau defnydd, a fyddai, o'u gweithredu, yn creu dosbarthiadau defnydd penodol ar gyfer preswylfeydd gwyliau cynradd, eilaidd a thymor byr. Ochr yn ochr â hyn, mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn ar gynigion i ddiwygio'r Gorchymyn datblygu cyffredinol a ganiateir. Byddai'r rhain yn symud rhwng y dosbarthiadau datblygiad a ganiateir hyn. Byddai awdurdodau cynllunio unigol wedyn yn gallu penderfynu a oeddent yn dymuno dileu'r hawliau datblygu a ganiateir drwy'r hyn a elwir yn gyfarwyddyd erthygl 4. Pe bai'n cael ei weithredu, byddai hyn yn golygu y byddai angen caniatâd cynllunio i symud cartrefi rhwng gwahanol ddefnyddiau cartrefi cynradd, eilaidd a gwyliau tymor byr yn yr ardaloedd lle yr oedd yr awdurdodau lleol wedi penderfynu mai dyna yr oeddent yn dymuno ei wneud. Byddwn hefyd yn gofyn am newidiadau posibl i 'Bolisi Cynllunio Cymru', gan gyfeirio at unrhyw newidiadau.

Nid ydym yn rhagfarnu canlyniadau'r ymgynghoriad hwn na'r ymgynghoriadau lleol ar gyfarwyddiadau erthygl 4. Mae'n bwysig iawn clywed ac ystyried pob llais, ac mae'n rhaid i ni a'n partneriaid wneud hynny a byddwn yn gwneud hynny. Os oes cefnogaeth eang i'r newidiadau hyn, byddwn yn gallu newid deddfwriaeth a gwerthuso'r effaith. Rwy’n rhagweld y gall hynny ddechrau digwydd o'r haf nesaf. Os bydd Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yn penderfynu, ar ôl ymgynghori ac ar sail eu tystiolaeth, i ddefnyddio eu pwerau yn Nwyfor, byddwn yn cynnwys effaith hyn o fewn y cynllun treialu.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda chontractwr ar ddichonoldeb a ffurf cynllun trwyddedu neu gofrestru statudol ar gyfer pob llety gwyliau, gan gynnwys llety wedi'i osod am dymor byr. Fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn ymgysylltu â phartneriaid lleol gyda'r bwriad o sefydlu cynllun gwirfoddol yn ardal y cynllun treialu, i ddefnyddio gwersi i lywio gweithrediad cynllun statudol. Er mai Dwyfor fydd canolbwynt y cynllun treialu, bydd gwerthusiad annibynnol yn cynnwys dysgu gweithredol parhaus, fel y gall meysydd eraill ymgysylltu, dylanwadu a dysgu o'r cynllun treialu. Rydym eisiau gwybod beth fydd effaith gyfunol y camau a gymerwn fel rhan o'n dull gweithredu tair elfen.

Un o'r pethau rydym ni eisoes yn ei wybod yw bod gormod o gartrefi'n eistedd yn wag ac yn segur. Er mwyn helpu i fynd i'r afael â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth grant o £2 filiwn i Gyngor Gwynedd ar gyfer prynu cartrefi gwag ar gyfer rhent cymdeithasol. Rhaid gwario o leiaf £1 miliwn o hyn yng nghynllun treialu Dwyfor. Bydd £1 miliwn arall yr un ar gael i gynghorau Ynys Môn, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin i'r un diben. Bydd yr arian yn ein helpu i asesu'r effaith mae hyn yn ei gael mewn cymunedau sydd angen cartrefi cymdeithasol a lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol.

Heddiw, rwyf wedi nodi'r camau nesaf i fynd i'r afael â mater cymhleth ail gartrefi er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu byw a gweithio yn eu hardaloedd lleol. Nid oes atebion hawdd yma ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Chyngor Gwynedd drwy gynllun treialu Dwyfor, ond hefyd gyda Phlaid Cymru, i ddatblygu'r mesurau hyn ymhellach, fel rhan o'r cytundeb cydweithredu a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe. Rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol. Byddwn yn parhau i archwilio popeth y gellir ei wneud a datblygu'r dulliau polisi gorau posibl. Edrychaf ymlaen at eich cefnogaeth yn hyn o beth. Diolch.