Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Ar gyfer y record, mae gen i dŷ lle mae gen i denant hirdymor yn byw ynddo hefyd, lawr yn Aberystwyth.
Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am y datganiad yma. Mae yna genedlaethau o bobl wedi bod yn ymgyrchu er mwyn ceisio cael llywodraethau i weithredu ar yr argyfwng yma, argyfwng sydd wedi bod yn wynebu rhai o'n cymunedau ers degawdau. Nôl ar ddechrau'r 1980au, fe wnaeth fy rhagflaenydd yn Nwyfor, Dafydd Wigley, gyflwyno syniadau i fynd i'r afael â'r cwestiwn ail dau yn San Steffan, ond fe'i wfftiwyd bryd hynny. Mae'n rhaid hefyd cydnabod rôl Cyngor Gwynedd—a Phlaid Cymru yn arwain y cyngor, wrth gwrs—a nhwythau eisoes wedi gwneud llawer o'r gwaith o amgylch hyn, a diolch iddynt am eu harweiniad yn y mater.
Mae'r ffaith ein bod ni'n gweld camau diriaethol yma heddiw er mwyn mynd i'r afael â'r cwestiwn yma o ail gartrefi a fforddiadwyedd tai yn rhai o gymunedau Cymru i'w groesawu. Mae yna dristwch ei fod wedi cymryd cyhyd, wrth reswm, efo nifer o gymunedau wedi gweld diboblogi aruthrol dros y degawdau oherwydd methiant llywodraeth ar ôl llywodraeth i gymryd y mater o ddifrif a gweithredu. Ond gwell hwyr na hwyrach, ac mae'r ystod yma o bolisïau yn cynnig gobaith. Mae'n bwysig hefyd bod yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn gytbwys ac yn deg, gyda phroses ac amserlen gywir yn cael eu dilyn yn llawn. Ni allwn ragfarnu'r canlyniad, ac mae'n rhaid i bob llais gael ei glywed. Ni allwn ychwaith risgio niweidio unrhyw gyfleoedd sydd gennym ni i weithredu ar unrhyw ddatrysiadau. Mae'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth rydyn ni wedi clywed amdano yn barod ar y meysydd penodol yma yn dangos fod posib gweithredu gwleidyddiaeth wahanol yma yng Nghymru. Dyma ddangos gwerth datganoli a bod posib cael datrysiadau yng Nghymru i broblemau sydd yn ein hwynebu ni yma yng Nghymru.
Mae'n rhaid hefyd cydnabod bod yr argyfwng tai ehangach yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru. Mae fforddiadwyedd tai a chostau rhentu yn golygu bod nifer yn methu â fforddio talu am do uwch eu pennau, a dwi'n edrych ymlaen at weithio a chydweithio efo'r Llywodraeth ar ddatrysiad i'r problemau yma hefyd wrth inni gydweithio ar y Papur Gwyn. Wrth gwrs, mae'r sialens felly yn un anferthol, ond gyda'r awydd gwleidyddol, y weledigaeth, polisïau cryf ac adnoddau ariannol digonol i wireddu'r amcanion, mae yna obaith eto am ddyfodol gwell i gymunedau Cymru.
Felly, i gloi, dwi am ofyn ychydig o gwestiynau i'r Gweinidog, os caf i. Pa sicrwydd, Weinidog, a pha atebion y gallwn ni eu cynnig i gymunedau eraill, y rhai y tu allan i'r cynlluniau peilot yma, nad ydyn nhw am gael eu gadael ar ôl? Bydd yna lawer yn pryderu am hyd y peilotiaid yma a'r symiau cymharol fach o bres sydd yn cael eu cynnig ar hyn o bryd. Pa mor sydyn allwn ni ddisgwyl i'r ardaloedd eraill yma gael eu cynnwys yn ymateb y Llywodraeth unwaith bod y peilot wedi cael ei weithredu ac unwaith rŷn ni'n dysgu gwersi o'r cynllun, fel bod pob ardal yn gallu gweld budd mor fuan â phosib? Ac a oes yna ymrwymiad i gynyddu'r cyfraniad ariannol ar sail peilot llwyddiannus?
Ac yn olaf, er bod y Papur Gwyn ar y ffordd, ynghyd â sôn am rhentu, fforddiadwyedd a phrisiau tai—ac mae hynny'n sicr i'w groesawu—hoffwn i ofyn pa gamau brys fydd yn cael eu gweithredu er mwyn ymateb i'r twf anghynaliadwy yn y bwlch rhwng prisiau tai, prisiau rhentu a chyflogau, sy'n atal nifer rhag fforddio cadw to uwch eu pennau. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.