Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Mae niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr wedi ysgogi teimladau cryf mewn rhai cymunedau yng Nghymru ers cryn dipyn o flynyddoedd. Yn y cymunedau hyn, yn aml, ceir ymdeimlad o anghyfiawnder bod pobl yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai leol gan y rheini sy'n prynu ail gartrefi neu gartrefi i'w gosod fel llety gwyliau tymor byr. Rŷn ni'n benderfynol o fynd i'r afael â'r mater hwn.
Rŷn ni'n ymwybodol o'r heriau, ac rydyn ni eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â nhw. Ar 6 Gorffennaf, gosododd y Gweinidog Newid Hinsawdd uchelgais o fynd i'r afael â materion yn ymwneud â pherchnogaeth ail gartrefi, ac mae ei chyhoeddiad heddiw yn nodi sut yr eir i'r afael â materion treth, cynllunio a fforddiadwyedd.
Ochr yn ochr gyda hyn, yn y cymunedau hynny lle mae'r Gymraeg yn iaith naturiol i'r gymuned, bydd ein cynllun tai cymunedau Cymraeg yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymateb. Byddwn yn datblygu pecyn o ymyraethau a fydd yn gweithio gyda'n dull gweithredu ar y cyd er mwyn cefnogi a diogelu cymunedau Cymraeg.
Mae 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' yn cydnabod pwysigrwydd y cymunedau hyn fel mannau sy'n hwyluso defnyddio'r iaith ymhob agwedd ar fywyd. Felly, mae angen inni lunio cynlluniau economaidd, cymunedol ac ieithyddol yn ofalus er mwyn galluogi cymunedau Cymraeg i fod yn hyfyw yn economaidd ac yn ieithyddol. Rhaid sicrhau bod modd i bobl, yn enwedig ein pobl ifanc, allu fforddio byw a gweithio yn y cymunedau Cymraeg hyn, a gwneud cyfraniad gwerthfawr atynt.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ystyried sut y gallai'r pecyn cyfan o ymyraethau, gan gynnwys y rheini y byddwn yn eu treialu yn Nwyfor, gael eu hategu ar lefel gymunedol er mwyn cefnogi a diogelu'r Gymraeg, tra hefyd yn osgoi unrhyw ganlyniadau annisgwyl. Mae'n ceisio barn ar ba fentrau ychwanegol sydd eu hangen i sicrhau y gall pobl, yn enwedig pobl ifanc, fforddio byw a gweithio yn ein cymunedau Cymraeg. Mae cyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein hymyraethau arfaethedig. Mae'n bosib y bydd rhai o'r ymyraethau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn elwa ar gael eu cynnwys ym mheilot Dwyfor.
Mae'r ddogfen ymgynghori yn cynnig nifer o fesurau y gwahoddir barn amdanynt. Dyma'r mesurau. Yn gyntaf, rŷn ni'n cynnig darparu cefnogaeth i fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol cymunedol. Yn ail, rŷn ni'n cynnig sefydlu prosiect peilot ar gyfer busnesau cymdeithasol yn y sector twristiaeth a fydd yn eiddo i'r gymuned. Yn drydydd, rŷn ni'n cynnig sefydlu grŵp llywio gwerthwyr tai, er mwyn ystyried prosiectau ac ymchwil posib ynghylch marchnadoedd tai lleol.
Yn bedwerydd, rŷn ni'n cynnig ymchwilio i gynllun cyfle teg gwirfoddol, a fydd yn golygu bod tai sydd ar y farchnad ar gael i bobl leol yn unig am amser cyfyngedig. Yn bumed, rŷn ni'n cynnig sefydlu rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol i ymgysylltu ar lefel gymunedol, i annog cynhwysiant cymdeithasol a gwella dealltwriaeth pawb o'n diwylliant, y Gymraeg a'n treftadaeth.
Yn chweched, rŷn ni'n cynnig sefydlu comisiwn ar gymunedau Cymraeg i gael gwell dealltwriaeth o'r heriau y mae cymunedau Cymraeg yn eu hwynebu yng nghyd-destun y newidiadau ieithyddol, economaidd a chymdeithasol sydd wedi deillio o COVID-19 a Brexit. Bydd y comisiwn hefyd yn gweithio i ddatblygu model a fydd yn helpu i adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol neilltuol, lle gellir cyflwyno ymyriadau polisi wedi'u teilwra.
Yn seithfed, rydyn ni'n cynnig gweithio gydag arweinwyr awdurdodau lleol i gryfhau'r cysylltiad rhwng yr economi, tai a'r Gymraeg drwy ehangu gwaith bwrdd crwn yr economi a'r iaith i gynnwys tai a rôl i oruchwylio datblygiad y cynllun Tai cymunedau Cymraeg. Ac yn olaf, rŷn ni'n cynnig archwilio ffyrdd newydd o godi ymwybyddiaeth o enwau lleoedd Cymraeg a'u hyrwyddo.
Mae yma gyfleoedd i gymunedau arwain ar rai o'r ymyraethau hyn, ac rŷn ni am sicrhau bod ganddynt yr arfau angenrheidiol i ymbweru, annog a hwyluso cyfranogiad cymunedol. Mae mentrau cymdeithasol a chwmnïau chydweithredol eisoes yn rhan bwysig o dirwedd sosioeconomaidd Cymru. Rydyn ni am archwilio ffyrdd o annog cymunedau i arwain gyda datblygiadau tai ar raddfa fechan, yn ogystal â sefydlu busnesau cymdeithasol, i sicrhau bod cymunedau sydd mewn peryg o golli gwasanaethau pwysig yn gallu diogelu a rheoli eu dyfodol eu hunain.
Does yna ddim atebion hawdd. Rwy’n hyderus y bydd yr ymyraethau a gynigir heddiw yn helpu i sicrhau bod pobl mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith yn gallu fforddio byw yn y cymunedau lle’u magwyd.
Mae hwn yn faes cymhleth, a bydd gan bobl amrywiaeth eang o safbwyntiau ar sut y dylai Llywodraeth Cymru ymateb. Rŷn ni felly yn annog pawb yn y cymunedau yr effeithir arnynt, ledled Cymru, i ymateb i'r ymgynghoriad hwn, p'un a ydynt yn byw, yn rhedeg busnesau, yn berchen ar eiddo, neu'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y cymunedau hyn, i’n cynorthwyo i ffurfio ein cynllun tai cymunedau Cymraeg.
Fel y dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn awr, mae hwn yn faes a gwmpesir gan y cytundeb cydweithio a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe, ac felly dwi’n edrych ymlaen at gael trafodaethau pellach gyda'r Aelod dynodedig o Blaid Cymru wrth inni gydweithio i ymateb i'r maes pwysig hwn.
Byddwn ni’n parhau i ddatblygu ac ystyried pob opsiwn posib er mwyn sicrhau bod ein cymunedau Cymraeg yn ffynnu.