Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 23 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr i chi, Weinidog, am y datganiad hwn. Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Ac fel sydd wedi cael ei ddweud gan Mabon ap Gwynfor, rwy'n hynod o falch o weld bod cynifer o bolisïau cyffrous a chwbl hanfodol i ddyfodol ein cymunedau Cymraeg wedi cael eu cynnwys yn y cytundeb rhyngom ni fel dwy blaid.
Rwy'n croesawu'r nodau uchelgeisiol a amlinellir yn y datganiad hwn heddiw, a dwi'n edrych ymlaen at gydweithio gyda chi ar y materion pwysig hyn er mwyn creu Cymru well, lle gall yr iaith Gymraeg a'n diwylliant ffynnu, a lle mae cymunedau Cymraeg yn cael eu cefnogi a'u diogelu, a lle bydd bywydau pobl yn gyffredinol yn gwella'n sylweddol.
Rwy'n sicr yn croesawu uchelgais y gwahanol bolisïau sy'n cael eu hamlinellu, ac mae ymgyrchwyr iaith, a minnau yn eu plith, ochr yn ochr â Phlaid Cymru, wedi bod yn brwydro'n hir ac yn galed iawn ers degawdau, mewn gwirionedd, i geisio mynd i'r afael â'r broblem tai, ac ail gartrefi'n benodol, yn ein cymunedau Cymraeg, a'r egwyddor sydd wedi caei ei gydnabod gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, a chithau yn y datganiad yma—yr egwyddor pwysig y dylai pobl leol fforddio byw yn y cymunedau lle maen nhw wedi cael eu magu.
Rwy'n falch bod hwn yn ddatganiad clir gennych chi fel Llywodraeth, er rwy'n ofni bod y datganiad a'r gweithredu sydd yn dilyn hyn, gobeithio, ychydig bach yn rhy hwyr yn y dydd i rai cymunedau sydd wedi cael eu colli yn barod o ran y niferoedd uchel iawn o ail gartrefi a'r nifer o unigolion sydd wedi dioddef yn sgil hyn. Ond rŷn ni yma i gyflawni nodau strategaeth 'Cymraeg 2050', a beth sydd yn bwysig, wrth gwrs, yw gweld sut mae polisïau tai, polisïau cynllunio a'r iaith Gymraeg yn cydblethu gyda'i gilydd mewn strategaeth sydd yn un cadarnhaol a buddiol. Ac, wrth gwrs, rhan o'r ateb i'r broblem o geisio cadw pobl ifanc yn eu cymunedau yw tai, ie, ond hefyd cryfhau'r economi leol, fel bod pobl yn gallu dod o hyd i waith yn eu milltir sgwâr, cyfrannu mewn ffordd ystyrlon ac adeiladol i'w cymunedau lleol a chael bywoliaeth dda yn eu hardaloedd o'u dewis. Mae'r hen slogan a oedd gan Gymdeithas yr Iaith flynyddoedd yn ôl yn dod i'r meddwl: 'Tai a gwaith i gadw'r iaith.'
Felly, yn benodol o ran cwestiynau i chi. Rŷch chi wedi rhoi pwyslais mawr ar dai a chryfhau'r economi, felly, yn hynny o beth, allwch chi esbonio beth yn union sydd gyda chi mewn golwg o ran cryfhau'r economi a sicrhau tai i bobl leol? Beth yw'r cynlluniau penodol sydd gyda chi i fynd i'r afael â hynny? Ac o ran datblygiadau tai, mae hyn yn fater sensitif hefyd, achos mae angen i ddatblygiadau tai ddigwydd lle mae eu hangen nhw. Yn aml iawn, mae'r datblygiadau tai yma'n digwydd ar gyrion ein prif drefi, ac mae hynny'n golygu bod y datblygiadau tai yma'n bell o wasanaethau pwysig, yn bell o ysgolion, yn bell o gael gafael ar drafnidiaeth gyhoeddus a hyd yn oed swyddi, ac, yn aml iawn, dyw'r datblygiadau tai yma ddim yn cynnwys digon o dai fforddiadwy. Dwi am adleisio un pwynt sydd wedi cael ei wneud gan y Torïaid yn barod: bod angen, efallai, pwyslais mwy ar ddod â thai gwag nôl i ddefnydd. Felly, a wnewch chi fel Gweinidog amlinellu sut mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu sicrhau bod tai newydd, mewn gwirionedd, yn diwallu anghenion lleol, yn arbennig mewn ardaloedd Cymraeg, a sut mae tai newydd a'r broses gynllunio yn gallu arwain at ganlyniadau gwell i'r iaith a siaradwyr Cymraeg ifanc? A hefyd, beth yw cyfrifoldebau cymdeithasau tai o safbwynt eu polisïau gosod o ran gwarchod cymunedau Cymraeg?
Fel y dywedais i, yn gyffredinol, rwy'n croesawu'r amrywiaeth o atebion polisi rŷn ni wedi clywed amdanyn nhw yn barod, ond, er mor uchelgeisiol yw rhai o'r mesurau ŷch chi'n eu cynnig, byddwn i'n licio cael ychydig bach mwy o fanylion, yn gyntaf o ran darparu cefnogaeth i fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol cymunedol—wel, i wneud beth a beth yw eu pwrpas nhw? Y prosiect peilot o ran y sector twristiaeth: beth yw'r model ŷch chi am ei ddefnyddio, beth yw rôl y llysgenhadon diwylliannol ac i bwy maen nhw yn mynd i fod yn atebol? Sefydlu comisiwn: beth mae hyn yn ei olygu, ai corff sefydlog neu grŵp tasg a gorffen? A hefyd bwrdd crwn yr economi a'r iaith: dwi wedi bod yn rhan o'r bwrdd crwn hwnnw ers y dechrau, a dwi'n meddwl bod angen inni symud ymlaen nawr i weld cynllunio gweithredu penodol yn digwydd.
Ac i gloi, Llywydd, os caf i, er mwyn gwireddu'r amcanion yma, mae angen cyllid, wrth gwrs, ac adnoddau. Felly, fyddech chi'n gallu rhoi rhagor o fanylion inni am sut fath o gefnogaeth ariannol a'r arbenigedd y gellir ei roi gan y Llywodraeth er mwyn darparu'r mesurau yma? Diolch yn fawr iawn.