Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gadw ein cymunedau'n ddiogel. Drwy ein hymgyrchoedd Byw Heb Ofn, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o stelcio, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys ar y stryd ac mewn mannau cyhoeddus eraill.