Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Lywydd, rwyf bob amser yn cymryd yr hyn rydym yn ei ddarllen yn y papurau newydd gyda phinsiad mawr o halen, ac nid fy lle i yw gwneud sylwadau ar arfer honedig o'r fath. Mae'n sicr yn rhywbeth y byddem yn ei godi mewn partneriaeth gymdeithasol gyda'r cyflogwyr a chyda'r undebau llafur, ond ni fyddai'n briodol imi wneud sylwadau ar hynny heb wybod y manylion.