Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 24 Tachwedd 2021.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n sicr yn sôn am ffenomen annifyr iawn. Bydd pob un ohonom yn adnabod rhywun sydd efallai wedi cysylltu â ni yn ein hetholaethau i godi pryderon nid yn unig am sgamiau o'r natur hon, ond sgamiau eraill, a dyna pam fod pob un ohonom yn Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n weithredol i gefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o sgamiau. Rwyf i fod i gyfarfod â'r Post Brenhinol yn yr ychydig wythnosau nesaf, a byddaf yn sicrhau bod hynny ar yr agenda hefyd yn y cyfarfod hwnnw. Ac rwy'n fwy na pharod i adrodd yn ôl i'r Aelodau ar hynny.FootnoteLink