Cyhwysiant Ariannol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 24 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:15, 24 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Yn ne-ddwyrain Cymru, helpodd ein cronfa gynghori sengl dros 27,400 o bobl i ymdrin â materion lles cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan arwain at dros £9.7 miliwn o incwm budd-dal lles ychwanegol. Hefyd, mae ein prosiectau a ariennir gan undebau credyd ledled y rhanbarth yn sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at gredyd fforddiadwy.