Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 24 Tachwedd 2021.
Diolch am hynny, Weinidog, ac roeddwn yn falch o weld cyhoeddiad y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf am y cyflog byw go iawn newydd yng Nghymru—y cyhoeddiad hwnnw ar ugeinfed pen-blwydd sefydlu'r mudiad cyflog byw. Yn ôl y Living Wage Foundation, mae 360 o gyflogwyr cyflog byw achrededig yng Nghymru bellach. Felly, mae'n dda gweld cynnydd, ond wrth gwrs mae'r hyn sy'n ffurfio cyflogaeth deg yn ehangach na'r cyflog ei hun. Felly, rwy'n bryderus iawn o glywed bod etholwyr i mi wedi profi agweddau eraill ar driniaeth annheg a gwael yn y gwaith, megis tactegau diswyddo ac ailgyflogi, gan gynnwys pobl sydd wedi gweithio i'r cyflogwr dan sylw ers cryn dipyn o amser, ers nifer o flynyddoedd, wedi gweithio'n ffyddlon i'r cyflogwr hwnnw, ac mae'n ymddangos nad oes llawer y gallant ei wneud pan fyddant yn dioddef o ganlyniad i'r arfer didostur hwn. Felly, tybed, Weinidog, a allech chi amlinellu pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd, wrth hyrwyddo'r cyflog byw go iawn, i annog a hyrwyddo agweddau eraill ar waith teg yng Nghymru hefyd?